Theodoric Fawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mawsoleum Theodoric yn Ravenna.

Roedd Theodoric Fawr (454 - 30 Awst, 526), Lladin: Flavius Theodoricus, yn frenin yr Ostrogothiaid (488-526), yn rheolwr Yr Eidal (493-526), ac yn rheolwr y Fisigothiaid (511-526).

Ganed Theodoric yn 454 ar lannau'r Neusiedler See ger Carnuntum, yn fab i Theodemir, brenin yr Ostrogothiaid. Pan oedd yn fachgen gyrrwyd ef i Gaergystennin fel gwystl, wedi i'r Ostrogothiaid wneud cytundeb a'r Ymerawdwr Bysantaidd, Leo. Bu'n byw yno am flynyddoedd, gan gael ei benodi'n magister militum (Meistr y Milwyr) yn 483, ac yn gonswl yn 484. Dychwelodd at yr Ostrogothiaid yn fuan wedyn, a daeth yn frenin arnynt yn 488.

Gwnaeth Theodoric gytundeb a'r Ymerawdwr Bysantaidd Zeno i ymosod ar yr Eidal, lle roedd Odoacer yn frenin. Enillodd Theodoric fuddugoliaethau ym mrwydrau Isonzo (489), Verona (489) ac Adda (490), ac yn 493 cipiodd ddinas Ravenna. Ildiodd Odoacer, a lladdwyd ef gan Theodoric yn bersonol.

Mewn theori roedd Theodoric yn rheoli'r Eidal ar ran yr Ymerodraeth Fysantaidd, ond yn ymarferol roedd yn frenin annibynnol. Gwnaeth gynghrair a'r Ffranciaid a phriododd Audofleda, chwaer Clovis I. Yn 511 daeth yn reolwr teyrnas y Fisigothiaid yn Sbaen a de Gâl, lle roedd ymladd wedi bod rhwng hawlwyr yr orsedd ers i Alaric II gael ei ladd ym mrwydr Vouillé yn 507. Diorseddodd Theodoric yr hawliwr Gesaleic, a gwnaeth ei ŵyr ei hun, Amalaric, mab Alaric a Tindigota, merch Theodoric, yn frenin. Theodoric fu'n rheoli'r deyrnas ar ran Amalaric hyd ei farwolaeth, pan ddaeth Amalaric yn frenin annibynnol.

Roedd Theodoric yn parchu arferion a diwylliant Rhufain, a bu nifer o wŷr amlwg yn ei wasanaethu, er enghraifft bu'r hanesydd Cassiodorus yn weinidog ac ymghynghorwr iddo. Tua 520 penododd yr athronydd Boethius yn magister officiorum,, pennaeth y llywodraeth. Yn ddiweddarach collodd Boethius ymddiried Theodoric, oedd yn ei amau o gynllwynio gyda'r Ymerawdwr Bysantaidd Justinianus, a dienyddiwyd ef yn 525. Roedd Theodoric yn dilyn y fersiwn Ariaidd o Gristionogaeth, ac roedd hyn yn creu tyndra rhyngddo ef a dilynwyr uniongrededd Catholig Cyngor Nicea.

Bu Theodoric farw yn Ravenna yn 526, a chladdwyd ef yn y mawsolewm sy'n un o adeiladau mwyaf nodedig y ddinas honno. Dilynwyd ef gan ŵyr, Athalaric, gyda'i fam Amalasuntha yn rheoli drosto o 526 hyd 534. Collodd teyrnas yr Ostrogothiaid ei nerth yn y blynyddoedd yn dilyn marwolaeth Theodoric, a gyrrodd Justinianus I y cadfridog Belisarius i ymgyrchu yn yr Eidal. Erbyn 553 roedd teyrnasiad yr Ostrogothiaid yn yr Eidal ar ben.

Mewn llenyddiaeth, mae'r cymeriad Dietrich von Bern yn y saga Almaenig Dietrichepik a'r Nibelungenlied wedi ei seilio ar Theodoric.