The Time Machine
Jump to navigation
Jump to search
Pwnc yr erthygl hon yw'r nofel. Am ddefnyddiau eraill, gweler The Time Machine (gwahaniaethu).
Nofel wyddonias gan H. G. Wells yw The Time Machine a gyhoeddwyd gyntaf ym 1895. Caiff Wells ei ystyried fel y person a boblogeiddiodd y syniad o deithio drwy amser mewn cerbyd. Bathwyd y term "peiriant amser" ganddo a chaiff ei ddefnyddio bron ym mhob iaith dan haul bellach.
Addaswyd y nofel hon deirgwaith ar gyfer y ffilm o'r un enw yn ogystal â dwy ffilm deledu a sawl comic. Credir hefyd iddi ysbrydoli nifer o weithiau eraill, mewn sawl cyfrwng a iaith.