Neidio i'r cynnwys

The Edge of Love

Oddi ar Wicipedia
The Edge of Love

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr John Maybury
Ysgrifennwr Sharman Macdonald
Serennu Keira Knightley
Sienna Miller
Cillian Murphy
Matthew Rhys
Cerddoriaeth Angelo Badalamenti
Sinematograffeg Jonathan Freeman
Golygydd Emma E. Hickox
Dylunio
Dyddiad rhyddhau 20 Mehefin 2008
Amser rhedeg 110 munud
Gwlad Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
Adolygiad BBC Cymru'r Byd
(Saesneg) Proffil IMDb

Ffilm gan John Maybury yw The Edge of Love (2008). Ysgrifennwyd y sgript gan Sharman Macdonald (mam Keira Knightley) ac mae Keira Knightly, Sienna Miller, Cillian Murphy a Matthew Rhys yn actio yn y ffilm. Yn wreiddiol, gelwyd y ffilm yn The Best Time of Our Lives, ac mae'n olrhain hanes y bardd Cymreig enwog Dylan Thomas a chwaraeir gan Matthew Rhys, ei wraig Caitlin MacNamara (Miller) a'u ffrindiau priod y Killicks (a chwaraeir gan Knightley a Murphy). Roedd y ffilm wedi'i dewis yn swyddogol ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin yn yr Alban.

Seiliwyd y stori yn fras ar ddigwyddiadau a phobl go iawn. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ail-gyfarfu Vera Phillips (Keira Knightley) â'i chariad cyntaf sef y bardd carismatig Cymreig Dylan Thomas (Matthew Rhys). Caiff eu teimladau at ei gilydd eu ail-gynnau er waetha'r ffaith fod Dylan bellach yn briod i Caitlin MacNamara (Sienna Miller). Er bod rhyw faint o wrthdaro rhwng y ddwy wraig daw'r ddwy ohonynt yn ffrindiau a threulia'r triawd amseroedd da gyda'i gilydd. Pan brioda Vera filwr o'r enw William Killick (Cillian Murphy), daw Dylan yn genfigennus a syla Caitlin ar hyn. Serch hynny, yn fuan iawn caiff William ei ddanfon dramor ac mae'r triawd yn symud i gefn gwlad Cymru lle mae teimladau Vera tuag at Dylan yn dwyshau. Pan ddychwela William o'r rhyfel, mae ei genfigen ynghyd â'r profiadau erchyll mae wedi bod trwyddo yn ffrwydro a dinistra'r tŷ lle mae Dylan yn aros.

Cast a chymeriadau

[golygu | golygu cod]
Actor Cymeriad
Keira KnightleyVera Phillips
Cillian MurphyWilliam Killick
Sienna MillerCaitlin MacNamara
Matthew RhysDylan Thomas
Lisa StansfieldRuth Williams
Graham McPhersonAl Bowlly
Camilla RutherfordNicolette
Alastair MackenzieAnthony Devas
Richard DillaneLt Col David Talbot Rice
Huw CeredigJohn Patrick
Simon ArmstrongWilfred Hosgood
Rachel EssexMel
Nick StringerPC Williams
Anthony O'DonnellJack Lloyd
Rachel BellBydwraig
Anne LambtonAnita Shenkin
Karl JohnsonDai Fred
Richard CliffordAlistair Graham

Cynhyrchiad

[golygu | golygu cod]

Dechreuwyd ffilmio yn 2007. Ar ddechrau 2007, dywedwyd y byddai Lindsay Lohan yn serennu yn y ffilm ond tynnodd allan o'r cynhyrchiad ar ddiwedd mis Ebrill 2007 ychydig cyn i'r ffilmio ddechrau. Ymunodd Miller â'r cynhyrchiad ar 23 Ebrill 2007. Pan oedd Lohan yn bwriadu actio yn y ffilm, dywedodd wrth MTV "Keira is older than me, but she kind of has a mysterious relationship with my lover and there's somewhat of a lesbian undertone". Fodd bynnag, dywedodd y sgriptiwr Macdonald, nad oedd unrhyw linynnau stori lesbiaidd.

Dosbarthu'r ffilm

[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd y ffilm yn rhyngwladol yn Ngŵyl Ffilmiau Caeredin ar 18 Mehefin 2008. Rhyddhawyd y ffilm yn Llundain ac yn Nulyn deuddydd yn ddiweddarach, gyda'r dangosiad Cymreig cyntaf yn digwydd yn Abertawe (man geni Dylan Thomas) ar yr un noson. Mynychodd Matthew Rhys y dangosiad hwn. Cafodd y ffilm ei rhyddhau yn genedlaethol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar 27 Mehefin 2008. Cynhaliwyd arddangosfa o'r gwisgoedd, sgriptiau a'r props o'r ffilm yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe tan fis Medi 2008.

Barn y beirniaid

[golygu | golygu cod]

Cafodd y ffilm feirniadaethau cadarnhaol iawn. O 21 Awst 2008, adroddodd y wefan Rotten Tomatoes fod 91% o'u beirniaid T-Meter wedi rhoi adroddiadau cadarnhaol i'r ffilm, yn seiliedig ar 11 adroddiad, gyda chanmoliaeth penodol i Knightley a Miller.[1] Dywedodd beriniad yr Hollywood Reporter, Ray Bennett, fod The Edge of Reason yn "wonderfully atmospheric tale of love and war" gan ddatgan bod "the film belongs to the women, with Knightley going from strength to strength (and showing she can sing!) and Miller again proving that she has everything it takes to be a major movie star".

Disgrifiodd Mark Kermode y ffilm fel "inert" gan nodi fod y sgript yn "flawed but not without merit". Teimlodd bapur newydd The Independent fod elfen greadigol Maybury yn gwneud y ffilm yn fwy diddorol nag y byddai pe bai'r ffilm wedi'i chyfarwyddo mewn modd traddiadol Brydeinig.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Gwefan RottenTomatoes.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-18. Cyrchwyd 2008-11-10.