The Cambrian (Cymru)
Jump to navigation
Jump to search
Y papur newydd cyntaf i'w gyhoeddi yng Nghymru oedd The Cambrian (hefyd: Y Cambrian).[1] Cafodd ei gyhoeddi yn Abertawe yn 1804. Tua 580,000 oedd poblogaeth Cymru y pryd hynny a bychan, felly, oedd ei gylchrediad. Saesneg oedd iaith y papur. Yn fuan wedyn - yn 1807 - cyhoeddwyd y North Walez gazette ym Mangor, sef wythnosolyn cyntaf Gogledd Cymru.
Cefnogwyd y papur gan deuluoedd yr Heyes a'r Dillwyniaid. Seren Gomer oedd y papur newydd cyntaf yn y Gymraeg, a daeth y rhifyn cyntaf allan o'r wasg yn 1814, yntau o Abertawe.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Jones, Beti (1993), "Cyhoeddi Papurau newydd yng Nghymru", Y Casglwr (51): 16, http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2051/51%2016.pdf