The Black Cauldron (ffilm)
![]() Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Ted Berman Richard Rich |
| Cynhyrchydd | Ron Miller Joe Hale |
| Ysgrifennwr | Lloyd Alexander (llyfrau) David Jonas |
| Serennu | Grant Bardsley Susan Sheridan John Hurt Nigel Hawthorne Freddie Jones John Byner Arthur Malet |
| Cerddoriaeth | Elmer Bernstein |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Walt Disney Pictures Buena Vista Distribution |
| Dyddiad rhyddhau | 24 Gorffennaf 1985 |
| Amser rhedeg | 80 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Iaith | Saesneg |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm animeiddiedig Disney sy'n seiliedig ar y llyfrau gan Lloyd Alexander yw The Black Cauldron (1985). Mae'r ffilm ymhlith y cynharaf i ddefnyddio animeiddiadau digidol: swigod, cwch a'r crochan ei hun.[1] Lleolir y ffilm yn nheyrnas 'Prydain', ac mae'n llawn o gymeriadau gydag enwau sy'n swnio'n Gymreig iawn, a themâu sy'n dod allan o'r Mabinogi. Ysbrydolwyd y ffilm gan fytholeg Gymraeg a Chymreig a seiliwyd hi ar gyfres o nofelau dan y teitl, The Chronicles of Prydain gan Lloyd Alexander, a gafodd eu hysgrifennu yn yr 1960au.[2]
Dyma'r ffilm Disney gyntaf i gael dosbarthiad PG yn hytrach na'r U sydd yn addas i bawb. Gwnaed hyn er mwyn denu cynulleidfa o bobl ifanc yn hyrach na phlant. Rhyddhawyd hi ar fideo yn 1997.
'Doedd y ffilm ddim yn llwyddiannus yn ariannol, yn bennaf gan fod ynddi lawer o ddelweddau o'r isfyd: mae'n ffilm eitha tywyll. Ond mae bellach wedi ennill cynulleidfa gwlt.
Cymeriadau
- Taran - Grant Bardsley
- Eilonwy, tywysoges - Susan Sheridan
- Fflewddur Fflam - Nigel Hawthorne
- Gurgi - John Byner
- "The Horned King" - John Hurt
- Dallben - Freddie Jones
- Hen Wen, mochyn
- Y Brenin Eidileg - Arthur Malet
- Doli - John Byner
- Creeper - Phil Fondacaro
- Orddu - Eda Reiss Merin
- Orwen - Adele Malis-Morey
- Orgoch - Billie Hayes
- Tylwyth Teg - Brandon Call
- Tylwyth Teg - Gregory Levinson
- Tylwyth Teg - Lindsay Rich
Cyfeiriadau
- ↑ Maltin, Leonard (1995). The Disney Films (arg. 3rd). Hyperion Books. t. 286. ISBN 0-7868-8137-2.
- ↑ www.bbc.co.uk; teiltl: 'Y ffilm Disney Gymraeg wnaeth pawb ei hanghofio'; adalwyd 22 Gorffennaf 2025.
