The Aristocats

Oddi ar Wicipedia
The Aristocats
Cyfarwyddwr Wolfgang Reitherman
Cynhyrchydd Winston Hibler
Wolfgang Reitherman
Cerddoriaeth George Bruns
Robert B. Sherman
Richard M. Sherman
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Buena Vista Distribution
Dyddiad rhyddhau 24 Rhagfyr, 1970
Amser rhedeg 78 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg, Ffrangeg

Ffilm animeiddiedig gan Disney yw The Aristocats (Cyfieithiad swyddogol Cymraeg:"Y Cathod Crach"[1]) (1970). Mae'n serennu Eva Gabor a Phil Harris, gyda Roddy Maude-Roxby fel Edgar y bwtler, sef dihiryn y stori. Dyma oedd yr ugeinfed ffilm animeiddiedig yng nghyfres Clasuron Animeiddiedig Walt Disney. Mae'r ffilm yn seiliedig ar stori gan Tom McGowan a Tom Rowe, ac mae'n adrodd hanes teulu o gathod pendefig, a sut y mae cath gyffredin yn eu cynorthwyo ar ôl i'r bwtler eu herwgipio er mwyn cael gafael ar gyfoeth eu perchennog, sy'n bwriadu gadael popeth i'w chathod. Yn wreiddiol, rhyddhawyd y ffilm mewn sinemau gan Buena Vista Distribution ar 11 Rhagfyr, 1970. Mae teitl y ffilm yn chwarae ar y gair aristocrats.

Mae'r ffilm yn nodedig am mai dyma oedd y ffilm olaf i Walt Disney ei hun ei chymeradwyo, oherwydd bu farw ef ar ddiwedd 1966, cyn i'r ffilm gael ei rhyddhau. Derbyniodd adolygiadau caboladwy a bu'n llwyddiant masnachol.

Cymeriadau

  • Duchess - Eva Gabor
  • Thomas O'Malley - Phil Harris
  • Marie - Liz English
  • Berlioz - Dean Clark
  • Toulouse - Gary Dubin
  • Edgar, y bwtler - Roddy Maude-Roxby
  • Roquefort, y llygoden - Sterling Holloway
  • Scat Cat - Scatman Crothers
  • Madame Adelaide Bonfamille - Hermione Baddeley
  • Napoleon, y gwaedgi - Pat Buttram
  • Lafayette, y ci - George Lindsey
  • Frou Frou, y ceffyl - Nancy Kulp
  • Georges Hautecourt, y cyfreithiwr - Charles Lane
  • Amelia Gabble, gŵydd o Loegr - Monica Evans
  • Abigail Gabble, gŵydd o Loegr - Carole Shelley
  • Yncl Waldo - Bill Thompson
  • Shun Gon, cath o Tseina - Paul Winchell
  • Hit Cat, cath o Loegr - Lord Tim Hudson
  • Peppo, cath o'r Eidal - Vito Scotti
  • Billy Brass, cath o Rwsia - Thurl Ravenscroft

Caneuon

  • "The Aristocats" (Les Aristochats, yn Ffrangeg) - Maurice Chevalier
  • "Scales and Arpeggios" - Liz English, Gary Dubin, Dean Clark, Robie Lester
  • "Thomas O'Malley Cat" - Phil Harris
  • "Ev'rybody Wants to Be A Cat" - Scatman Crothers, Phil Harris, Thurl Ravenscroft, Vito Scotti, Paul Winchell

Gweler hefyd

Cyfeiriadau