Thaieg
Thaieg | ||
---|---|---|
ภาษาไทย | ||
Siaredir yn | ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() | |
Cyfanswm siaradwyr | 20-36 miliwn o siaradwyr brodorol (2000) 44 miliwn o siaradwyr ail iaith | |
Teulu ieithyddol |
| |
System ysgrifennu | Yr Wyddor Thaieg | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | th | |
ISO 639-2 | tha | |
ISO 639-3 | tha | |
Wylfa Ieithoedd | 47-AAA-b |

Thaieg (neu'n hanesyddol, Siameg; Thaieg: ภาษาไทย) yw iaith genedlaethol Gwlad Thai a'i hiaith swyddogol de jure. O'r dros 60 o ieithoedd sy'n cael eu siarad yng Ngwlad Thai, Thaieg sydd â'r nifer uchaf o siaradwyr. Mae'n cael ei chydnabod fel iaith leiafrifol hefyd yn Indonesia, Myanmar, Cambodia a Laos. Mae gan Thaieg gysylltiad agos â Laoseg, iaith swyddogol Laos; yn wir, mae rhai o dafodieithoedd Thaieg a Laoseg yn ddealladwy i rai o siaradwyr yr iaith arall.
Defnyddir sgript Thaieg i ysgrifennu'r iaith, sy'n cael ei hysgrifennu o'r chwith i'r dde. Mae gan yr wyddor Thaieg 44 o gytseiniaid: ก ข ฃ ค ฅ ฆ ง จ ฉ ช ซ ฌ ญ ฎ ฏ ฐ ฑ ฒ ณ ด ต ถ ท ธ น บ ป ผ ฝ พ ฟ ภ ม ย ร ล ว ศ ษ ส ห ฬ อ ฮ. Iaith donyddol a dadansoddol yw Thaieg.