Neidio i'r cynnwys

Tai (iaith)

Oddi ar Wicipedia
Tai
ภาษาไทย
Siaredir yn Baner Gwlad Tai Gwlad Tai
Baner Indonesia Indonesia
Baner Myanmar Myanmar
Baner Cambodia Cambodia
Baner Laos Laos
Cyfanswm siaradwyr 20-36 miliwn o siaradwyr brodorol (2000)
44 miliwn o siaradwyr ail iaith
Teulu ieithyddol
System ysgrifennu Yr wyddor Dai
Codau ieithoedd
ISO 639-1 th
ISO 639-2 tha
ISO 639-3 tha
Wylfa Ieithoedd 47-AAA-b

Tai[1] (ภาษาไทย), neu'n hanesyddol Siameg, yw iaith genedlaethol Gwlad Tai a'i hiaith swyddogol de jure. O'r dros 60 o ieithoedd sy'n cael eu siarad yng Ngwlad Tai, Tai sydd â'r nifer uchaf o siaradwyr. Mae'n cael ei chydnabod fel iaith leiafrifol hefyd yn Indonesia, Myanmar, Cambodia a Laos. Mae gan yr iaith Dai gysylltiad agos â Laoseg, iaith swyddogol Laos; yn wir, mae rhai o dafodieithoedd Tai a Laoseg yn ddealladwy i rai o siaradwyr yr iaith arall.

Defnyddir sgript Dai i ysgrifennu'r iaith, sy'n cael ei hysgrifennu o'r chwith i'r dde. Mae gan yr wyddor Dai 44 o gytseiniaid: ก ข ฃ ค ฅ ฆ ง จ ฉ ช ซ ฌ ญ ฎ ฏ ฐ ฑ ฒ ณ ด ต ถ ท ธ น บ ป ผ ฝ พ ฟ ภ ม ย ร ล ว ศ ษ ส ห ฬ อ ฮ. Iaith donyddol a dadansoddol yw Tai.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]