Teyrnas Galisia
Math o gyfryngau | teyrnas, gwlad ar un adeg, uned weinyddol hanesyddol |
---|---|
Daeth i ben | 1833 |
Dechrau/Sefydlu | 410 |
Dechreuwyd | 411 |
Pennaeth y sefydliad | Brenin Galisia |
Rhagflaenydd | Gallaecia |
Olynydd | Region of Galicia, Capteniaeth Gyffredinol Galisia |
Aelod o'r canlynol | Teyrnas León, Brenhiniaeth Gatholig, Brenhiniaeth Sbaen (1516-1700) |
Gwladwriaeth | Teyrnas León, Coron Castilia, Sbaen |
Teyrnas Galisia yw'r enw ar ddau endid a fodolai ym Mhenrhyn Iberia ar wahanol adegau. Teyrnas Germanaidd y bobl Suebi a ymunodd â'r Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol ym 406 oedd y cyntaf: Teyrnas y Suebi. Roedd y deyrnas honno ym mhen gogledd-orllewinol penrhyn Iberia, yn y dalaith a elwir Gallaecia. Meddiannwyd y deyrnas gan y Fisigothiaid ym 585.
Yn yr Oesoedd Canol, pan rannwyd Teyrnas Asturias, a oedd yn olynydd i deyrnas y Fisigothiaid, sefydlwyd endid yn Galisia yn 910. Bu'n sofran am ddwy ganrif: ym 1126 etifeddodd brenin Galisia Alfonso VII Goron Castile ac ym 1128 daeth sir Portiwgal, sef ei rhan ddeheuol, yn Deyrnas sofran; yna dechreuasant y Reconquista tua'r de. Pan rannwyd Coron Castile ym 1157, arhosodd Galisia o fewn Teyrnas Leon. Fodd bynnag, o ran ffurf, parhaodd Teyrnas Galisia fel endid hyd 1833.