Tenjho Tenge

Oddi ar Wicipedia
Clawr y llyfr

Cyfres o ffilmiau ydy Tenjho Tenge (天上天下 Tenjō Tenge, yn llythrennol: "Nefoedd a Daear") sy'n fath o fanga a elwir yn Seinen. Mae'r gyfres wedi'i sgwennu a'i darlunio gan Oh! great (ei enw iawn ydy Ito Ōgure (大暮 維人 Ōgure Ito, ganwyd 22 Chwefror 1972 yn Hyuga, Miyazaki, Japan). Mae'r stori'n sôn am aelodau o Glwb y Juken a'u gelynion sef Cyngor y Myfyrwyr. Mae'r cwbwl wedi'i leoli mewn ysgol yn Japan, sy'n arbenigo mewn ymladd. Mae'r ffrae yma'n bodoli ers pedwar canrif.

Cafodd y gyfres Tenjho Tenge ei chyhoeddi yn gyntaf yn y cylchgrawn Ultra Jump, (cyhoeddwyr: Shūeisha), rhwng 1998 a 2010. Crëwyd ffilm gyda 26 rhan a chafodd ei darlledu ar y teledu rhwng 1 Ebrill, 2004 ac 16 Medi, 2004.

Y plot[golygu | golygu cod]

Mae'r stori'n cychwyn efo Souichiro Nagi a'i ffrind Bob Makihara yn cychwyn yn yr ysgol newydd: Toudou Academy. Roedden nhw am roi cweir i blant eraill fel roeddent wedi arfer ei wneud yn yr hen ysgol. Ond mae nhw'n sylweddoli'n sydyn nad ysgol gyffredin oedd hon! Ysgol dysgu paffio oedd hi. Mae gan y myfyrwyr alluoedd oruwchnaturiol: pyrokinesis, y gallu i ragweld, a chryfder goruwchnaturiol sy'n tarddu o'u "hysbryd" neu "ki" yn Japaneg. Mae'r ddau yn ymuno â grwp y Juken i herio Cyngor y Myfyrwyr.

Cwynion[golygu | golygu cod]

Mae na lawer o gwynion wedi bod gan y darllenwyr (y ffans) fod y cyfresi sydd wedi'u cyhoeddi yn yr Unol Daleithiau wedi cael eu sensro, yn enwedig y darnau Omake neu'r rheiny sy'n ymwneud â rhyw. Sgwennodd un beirniad, mewn adolygiad, mai dyma'r darn o lenyddiaeth a gafodd fwyaf o sensoriaeth yn hanes llenyddiaeth Americanaidd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dungan, Mike (7 Mawrth 2005). "Tenjho Tenge Vol. #01 of 15*". Anime on DVD. Cyrchwyd 2007-12-01.