Telor yr Hesg

Oddi ar Wicipedia
Telor yr Hesg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Acrocephalidae
Genws: Acrocephalus
Rhywogaeth: A. schoenobaenus
Enw deuenwol
Acrocephalus schoenobaenus
(Linnaeus, 1758)

Mae Telor yr Hesg (Acrocephalus schoenobaenus) yn aelod o deulu teloriaid y cyrs, Acrocephalidae, sy'n nythu yn y rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin a chanol Asia. Mae'n aderyn mudol, yn treulio'r gaeaf yn Affrica.

Gellir ei adnabod o'r cefn brown gyda llinellau du, gwyn ar y bol ac yn enwedig y llinell wen uwchben y llygad. Mae'r ddau ryw yr un fath. Ceir yr aderyn yma fel rheol lle mae tir gwlyb a llwyni, er enghraifft o gwmpas glannau llynnoedd ac afonydd, er ei fod i'w gael mewn lleoedd sych hefyd. Ei brif fwyd yw pryfed.

Mae'r gân yn debyg iawn i gân Telor y Cyrs, ond yn gyflymach.