Tarian Rhyddid a Dymchwelydd Gormes (cylchgrawn)

Oddi ar Wicipedia
Tarian Rhyddid a Dymchwelydd Gormes (cylchgrawn)

Cylchgrawn Cymraeg radical gwrth-eglwysig a gylchredwyd ymysg y Cynulleidfawyr oedd Tarian Rhyddid a Dymchwelydd Gormes.

Ymddangosodd yn fisol, gydag 8 rhifyn yn cael eu cyhoeddi rhwng Ionawr ac Awst 1839.

Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau yn ymosod ar yr Eglwys Wladol, yn enwedig yn erbyn talu'r degwm i'r eglwys.

Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidog, awdur ac arweinydd gwleidyddol William Rees (Gwilym Hiraethog, 1802-1883)[1] a'r gweinidog ac ysgolfeistr Hugh Pugh (1803-1868).[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "William Rees, yn Y Bywgraffiadur Cymreig".
  2. "Investigating Victorian Journalism gan Laurel Brake, Aled Jones, Lionel Madden".
  3. "Cylchgronau Cymru".
Flag of Wales.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.