Taliesin (locomotif)
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | locomotif stêm ![]() |
---|---|
Math | Single Fairlie, narrow gauge locomotive, tank locomotive ![]() |
Dechreuwyd | 1999 ![]() |
Lled y cledrau | 1-foot 11½-inch track gauge ![]() |
Gweithredwr | Rheilffordd Ffestiniog ![]() |
Gwneuthurwr | Gweithdy Boston Lodge ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Mae Taliesin yn locomotif Cledrau cul sy’n gweithio ar Reilffordd Ffestiniog. Dyma'r trydydd locomotif â’r un enw. Mae’n locomotif Fairlie sengl gyda threfniant olwynion 0-4-4, a adeiladwyd gan y rheilffordd a grŵp o wirfoddolwyr yng Ngweithdy Boston Lodge. Taliesin oedd y pumed locomotif a adeiladwyd yno, a chwblhawyd y gwaith ym 1999. Mae’n debyg i’r Taliesin gwreiddiol, adeiladwyd ym 1876 a datgymalwyd ym 1924, er ei fod tipyn bach yn fwy. Erbyn hyn mae’n gweithio’n rheolaidd ar y rheilffordd.[1]
Hanes[golygu | golygu cod]
Codwyd pres i adeiladu’r locomotif gyda cynllun gan Andy Savage a Gordon Rushton. Talwyd £10 bob mis dros gyfnod o 12 mlynedd. Roedd y ‘Taliesin’ newydd tipyn bach yn hirach na’r un gwreiddiol. Roedd hi’n bosibl newid o ddefnyddio glo i olew – neu’r ffordd arall - mewn diwrnod. Adeiladwyd y boeler gan Bloomfield Steel Construction ym 1998. Cafodd y locomotif ei enwi ym Mai 1999. Cwblhawyd a pheintiwyd y locomotif cyn dechrau gweithio ym Awst 2000, yn defnyddio olew. Gweithiodd Taliesin yng Ngwyl Rheilffordd Eryri ar 16-17 Medi 2000, ac aeth o yn ôl i’r rheilffordd ar 22-23 Medi 2001 ac eto yn Nhachwedd 2009.[2]
Defnyddiwyd olew gan locomotifau’r rheilffordd ers y 60au i osgoi tanau yn ymyl y rheilffordd ym Mharc Cenedlaethol Eryri a’r costau canlynol o yswiriant, ond roedd cost yr olew wedi codi’n sylweddol, felly cynlluniwyd Taliesin i newid o olew i lo, a’r gwrthwyneb, yn rhwydd. Newidiwyd gweddill y locomotifau wedyn. Mae Taliesin yn boblogaidd ymysg y gyrwyr a dynion tân, ond mae o wedi dioddef ar ôl iddo dynnu gormod o gerbydau. Datryswyd y broblem gan greu ‘monobloc’ yn cynnwys y silindrau a falfau piston. Ychwanegwyd y monobloc erbyn mis Hydref 2011. Bwriadir defnyddir monobloc tebyg ar locomotifau eraill. Codwyd pwys y boeler i 200psi yn 2012. Ailwbeiniwyd Taliesin yn 2016.[3]
-
Taliesin ym Mhorthmadog
-
Taliesin a Linda'n gadael Tan-y-Bwlch