Tafarn y Golden Cross, Caerdydd
Math | tafarn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | canol dinas Caerdydd, Tre-Biwt |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 8.3 metr |
Cyfesurynnau | 51.47707°N 3.17439°W |
Cod post | CF10 1GH |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Tafarn yw'r Golden Cross yng nghanol Caerdydd. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1903, yn nodedig am ei deils ceramig, ac wedi ei restru gyda Gradd II.[1][2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae tafarn wedi bodoli ar y safle ers 1849. Fe'i hail-enwyd yn The Golden Cross yn 1863.[1] Tua 1903/4 fe'i hail-adeiladwyd yn y ffurf bresennol (mae'r teils yn y bar wedi eu dyddio 1903).[2]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ceisiodd yr arweinydd ffasgaidd Oswald Mosley gynnal cyfarfod yn y dafarn ond fe wnaeth gwrthwynebiad treisgar ei orfodi nôl i Lundain.[1]
Roedd bygythiad i ddymchwel y dafarn yn 1979 ond achubwyd ar adeilad ar ôl ymgyrch bapur newydd lleol.[1] Roedd wedi cael ei restru yn 1975.[2]
21ain ganrif
[golygu | golygu cod]Daeth y Golden Cross yn dafarn hoyw boblogaidd, gydag adloniant a pherfformwyr drag rheolaidd. Yn 2004, fe'i pleidleisiwyd y dafarn hoyw gorau yn y DU.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Brian Lee: Golden memories of Cardiff's Golden Cross pub". Wales Online. 26 October 2012. Cyrchwyd 6 May 2015.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Golden Cross Public House, Butetown". British Listed Buildings. Cyrchwyd 6 May 2015.
- ↑ "The Golden Cross". Cardiffpubs.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 6 Mai 2015.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Tudalen gwe Golden Cross
Archifwyd 2015-04-28 yn y Peiriant Wayback