Tacitus (ymerawdwr)

Oddi ar Wicipedia
Tacitus
Ganwyd200 Edit this on Wikidata
Terni Edit this on Wikidata
Bu farwMehefin 276 Edit this on Wikidata
Tyana Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig Edit this on Wikidata

Marcus Claudius Tacitus (c.200Mehefin 276), oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 275 a 276. Er iddo ef ei hun geisio awgrymu'n wahanol, nid oedd ganddo gysylltiad teuluol a'r hanesydd Tacitus.

Ganed Tacitus i deulu distadl yn un o'r taleithiau ger Afon Donaw; Noricum, Pannonia neu Raetia). Ni wyddir llawer am ei yrfa, ond bu'n gonswl yn 273.

Wedi i'r ymerawdwr Aurelian gael ei lofruddio, bu cyfnod o tua 6 mis heb ymerawdwr. Yn ystod y cyfnod hwn bu'r Senedd a'r llengoedd yn trafod pwy fyddai olynydd Aurelian, gan nad oedd ef ei hun wedi penodi olynydd. Yn y diwedd dewiswyd Tacitus. Roedd tua 75 oed pan gyhoeddwyd ef yn ymerawdwr.

Pan ddaeth yn ymerawdwr penododd Tacitus ei frawd Florianus yn bennaeth Gard y Praetoriwm. Yn fuan wedyn ail-ddechreuodd y rhyfeloedd ar ffiniau'r ymerodraeth pan groesodd y llwythi Almaenaidd dros Afon Rhein. Yr un pryd symudodd y Gothiaid i Asia Leiaf, gan haeru eu bod wedi eu galw yno gan Aurelian i ymlass yn erbyn y Persiaid. Aeth Tacitus i ddelio a'r Gothiaid tra'r aeth ei frawd Florianus i ymladd ar Afon Rhein. Bu'r ddau'n llwyddiannus, a chafodd Tacitus fuddugoliaeth dros yr Alaniaid gerllaw Palus Maeotis.

Ychydig wedyn, ar ôl bod yn ymerawdwr am 6 mis, bu farw Tacitus yn annisgwl yn Tyana (Capadocia). Mae dwy stori am ei farwolaeth. Yn ôl Eutropius ac Aurelius Victor bu farw o dwymyn, tra dywed Zosimus iddo gael ei lofruddio. Dilynwyd ef fel ymerawdwr gan ei frawd Florianus.

Rhagflaenydd:
Aurelian
Ymerawdwr Rhufain
275276
Olynydd:
Florianus