Tŷ Anne Frank
Gwedd
| Math | amgueddfa tŷ hanesyddol, cofeb ryfel |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Anne Frank |
| Agoriad swyddogol | 3 Mai 1960 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Amsterdam |
| Sir | Amsterdam |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.375147°N 4.88404°E |
| Cod post | 1016GV |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | Otto Frank |
| Deunydd | bricsen, pren |

Mae Tŷ Anne Frank ar y Prinsengracht yn Amsterdam, Yr Iseldiroedd, yn amgueddfa o fywyd Anne Frank, y ferch ifanc, Iddewig a gadwodd ddyddiadur yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cuddiodd Frank a'i theulu o erledigaeth y Natsiaid trwy guddio mewn ystafelloedd cudd yng nghefn yr adeilad. Yn ogystal â chadw'r man cuddio am resymau hanesyddol, mae'r amgueddfa hefyd yn cynnwys arddangosfa o fywyd Anne Frank a'r cyfnod roedd hi'n byw ynddo. Mae'r amgueddfa yn ganolfan sy'n arddangos pob math o erledigaeth a rhagfarn.
Agorodd yr amgueddfa ar y 3ydd o Fai, 1960 gyda chefnogaeth ariannol y cyhoedd, tair blynedd ar ôl i gymdeithas gael ei sefydlu er mwyn amddiffyn yr adeilad rhag datblygwyr ac adeiladwyr a oedd eisiau dymchwel yr adeilad.
