Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad y Basg

Oddi ar Wicipedia
Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad y Basg
Enghraifft o'r canlynoltîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1930 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://euskadifutbol.eus/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nid oes gan Gwlad y Basg gydnabyddiaeth ryngwladol i'w tîm pêl-droed Gwlad y Basg cenedlaethol gan FIFA nac UEFA. Serch hynny, mae tîm cenedlaethol Ffederasiwn Bêl-droed Gwlad y Basg yn chwarae gemau rhyngwladol â gwledydd cydnabyddedig.

Tîm pêl-droed Gwlad y Basg yn chwarae yn erbyn Tîm pêl-droed Catalonia yn y stadiwm Camp Nou

Gan nad oes cydnabyddiaeth ryngwladol llawn i'r tîm fe'i cyfeirir gan sawl enw gan gynnwys Selección de Euskadi, Euskal Selekzio, Euskadi XI a Basg XI. Nid yw ei chorff llywodraethol, Euskadiko Futbol Federakundea (EFF), yn aelod o na FIFA na UEFA ac felly ni all gystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol megis Cwpan Ewrop neu Gwpan y Byd.

Chwaraewyd gêm gyntaf Euskadi XI ar 1 Ionawr 1915 yn erbyn Catalwnia XI, gan ennill 6-1. Yn 1915 a 1916 ac yna yn 1930 a 1931 chwaraeodd y ddwy genedl mewn cyfres o gemau. Bu'n rhaid aros nes 1937 cyn i dîm Euskadi XI chwarae y tu allan i Sbaen. Awgrym José Antonio Aguirre, Llywydd Gwlad y Basg a chyn chwaraewr gydag Athletic Bilbao, oedd y dylai tîm Euskadi XI deithio dramor er mwyn codi arian ar gyfer achos y Basgiaid yn Rhyfel Cartref Sbaen. Teithiodd y tîm ar draws Ewrop a Mecsico gan hyd yn oed ymuno â chynghrair Mecsico.

Yn ystod teyrnasiad y Ffasgydd Franco rhoddwyd taw ar amrywiaethau cenedlaethol o fewn gwladwriaeth Sbaen a ni chwaraeodd yr Euskadi XI tan 1979. Ers y flwyddyn honno mae Euskadi XI yn dod at ei gilydd fel tîm, fel arfer adeg y Nadolig, i chwarae gemau yn Stadiwm San Mamés. Maent wedi chwarae yn erbyn timau o Affrica, De America ac Ewrop, ond yn wahanol i Gatalwnia, dydynt erioed wedi denu tîm bêl-droed fawr fel Brasil.

Ar 21 Mai 2006 chwaraeodd Euskadi XI eu gêm gyntaf yn erbyn Cymru. Gêm gyfeillgar oedd hon a ysbrydolwyd i raddau helaeth gan reolwr Cymru, John Toshack, bu ar un adeg yn rheoli'r tîm Basgaidd, Real Sociadad o Donostia (San Sebastian).

Ffurfiwyd Euskal Selekzioa, er mwyn ymgyrchu i Wlad y Basg gael ei chydnabod ym mhob maes chwaraeon. Oherwydd poblogrwydd pêl-droed yn y wlad ac yn rhyngwladol gwelir yr ymgyrch i ennill cydnabyddiaeth gan UEFA a FIFA fel un o'r rhai mwyaf pwysig. Cyfeirir at y ffaith fod sawl tiriogaeth nad sy'n wladwriaethau annibynnol megis, Cymru, Yr Alban, Ynysoedd Ffaroe ac ers Rhagfyr 2006, Gibraltar, gydnabyddiaeth gan UEFA ac/neu FIFA. Mae dyhead nifer o Basgiaid dros gael tîm pêl-droed rhyngwladol gydnabyddedig yn debyg i'r dyhead yn Llydaw a Chatalwnia.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]