Syndrom Stockholm

Oddi ar Wicipedia

Ymateb seicolegol a welir weithiau mewn pobl sy’n cael eu herwgipio yw Syndrom Stockholm. Bydd gwystl sy’n profi Syndrom Stockholm yn magu teyrngarwch i’r herwgipiwr, er gwaethaf unrhyw berygl neu risg a ddaw i’w ran o’i herwydd. Defnyddir yr enw i ddisgrifio sefyllfaoedd eraill lle bydd tensiynau tebyg, megis achosion o drais yn y cartref, cam-drin, a thrais rhywiol. Enwyd y syndrom ar ôl lladrad banc yn Stockholm yn Sweden ym 1973, lle daliwyd gweithwyr y banc yn wystlon am chwe diwrnod gan y lladron. Magodd y gwystlon ymlyniad emosiynol wrth y rhai a’u daliodd yn gaeth, a hyd yn oed ar ôl cael eu rhyddhau roeddent yn barod i amddiffyn eu dalwyr.

Effaith[golygu | golygu cod]

Bydd rhywun sy’n dioddef o’r syndrom yn creu sefyllfa yn ei ben fel ffordd o dwyllo a chysuro’i hun y bydd y daliwr yn ei ddiogelu neu’n gofalu amdano. Drwy greu ymlyniad emosiynol ffug wrth ei ddaliwr ac ymdrechu i ennyn ei ganmoliaeth a’i gymeradwyaeth, bydd yn creu realiti ffug iddo’i hun, lle na ddaw dim niwed i’w ran. Drwy amddiffyn a/neu ddiogelu’r daliwr rhag yr heddlu neu bobl a allai ddod i’w achub, bydd yn caniatáu iddo’i hun ymddangos fel pe bai rheolaeth ganddo dros y berthynas sydd rhyngddynt, er nad oes unrhyw rym ganddo mewn gwirionedd. Yn llygad y dioddefwr, mae’r ffaith bod y daliwr wedi caniatáu ei fywyd iddo yn arwydd o gariad, ac mae’r carcharor am ad-dalu’r gymwynas honno er mwyn diogelu ei safle. Drwy dderbyn ei swyddogaeth fel gwrthrych y daliwr, caiff gallu gwystl i reoli ei emosiynau ei hun ei wanhau. Bydd hyn yn ei wneud yn fwy agored i fympwyon y daliwr, sy’n atgyfnerthu'r berthynas anghytbwys hon o ymlyniad rhwng y gwystl a’r daliwr.

Achosion enwog[golygu | golygu cod]

Herwgipiwyd yr etifeddes Americanaidd Patty Hearst gan y Symbionese Liberation Army yn 1974, ac ar ôl ei dal am ddau fis cymerodd ran mewn lladrad banc gyda'i dalwyr. Ei hamddiffyniad cyfreithiol aflwyddiannus oedd ei bod yn dioddef o Syndrom Stockholm. Carcharwyd Hearst am ei rhan yn y lladrad, ond lleihawyd ei dedfryd gan yr Arlywydd Jimmy Carter yn 1979, a derbyniodd bardwn arlywyddol gan Bill Clinton yn 2001.