Sylvia Anderson
Sylvia Anderson | |
---|---|
Ganwyd | Sylvia Thamm 25 Mawrth 1927 Camberwell |
Bu farw | 15 Mawrth 2016 Bray |
Dinasyddiaeth | Y DU |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, nofelydd, hunangofiannydd, sgriptiwr, actor llais, cynhyrchydd teledu, asiant talent, cynhyrchydd |
Priod | Gerry Anderson |
Gwefan | http://www.sylviaanderson.org.uk |
Actores, awdures a chynhyrchydd ffilm a theledu o Loegr oedd Sylvia Anderson (née Thamm, 27 Mawrth 1927 – 15 Mawrth 2016) oedd yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda Gerry Anderson, ei gŵr rhwng 1960 ac 1981.[1]
Yn ogystal â chyd-greu a chyd-ysgrifennu eu cyfresi teledu yn ystod y 1960au a'r 1970au, prif gyfraniad Anderson oedd datblygu'r cymeriadau a dylunio'r gwisgoedd.[2] Byddai'n cyfarwyddo'r sesiynau recordio llais yn rheolaidd, ac yn lleisio rhai cymeriadau benywaidd a phlant, yn arbennig y cymeriad Lady Penelope yn Thunderbirds. Fe ysgarodd y cwpl ar ddechrau'r 1980au ar ôl iddynt wahanu am 5 mlynedd.[1]
Bu farw Anderson ar 15 Mawrth 2016, yn 88 mlwydd oed, yn dilyn salwch byr.[3]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Anderson yn Ne Llundain, Lloegr ar 27 Mawrth 1927. Roedd ei thad yn focsiwr penigamp a'i mam yn wniadwraig.[4]
Ar ôl graddio o Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain[2] gyda gradd mewn economeg a chymdeithaseg, daeth yn weithiwr cymdeithasol. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau i fyw gyda'i gŵr cyntaf, golffiwr Americanaidd.[1] Tra oedd yn America, gweithiodd fel newyddiadurwr.[5]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl dychwelyd i'r Deyrnas Unedig gyda merch, ymunodd Anderson a'r cwmni newydd ond byrhoedlog, Polytechnic Films fel ysgrifenyddes yn 1957.[1][2] Yno, cyfarfu Gerry Anderson, golygydd a chyfarwyddwr.[1] Yr un flwyddyn, yn dilyn cwymp Polytechnic, ffurfiodd Anderson a Arthur Provis gwmni AP Films, ac fe ymunodd â nhw ar fwrdd cyfarwyddwr y cwmni newydd, ynghyd â'i chydweithwyr John Read a Reg Hill.[1][2] Priododd y cwpl yn 1960, ac ar ôl hynny, cafodd ddyletswyddau ehangach ar waith cynhyrchu.[1][2]
Fe ddaeth partneriaeth greadigol yr Andersons i ben pan chwalodd eu priodas yn ystod cynhyrchu cyfres gyntaf Space: 1999 yn 1975.[1] Cyhoeddodd Gerry ei fwriad i wahanu ar noswaith y parti cloi,[6][7] ac yn dilyn hynny fe wnaeth Sylvia dorri ei chysylltiad gyda'r cwmni, a oedd erbyn hyn wedi ei ailenwi gyda'r enw Group Three. Yn 1983, cyhoeddodd nofel gyda'r teitl Love and Hisses[1] ac yn 1994, fe ail-gydiodd yn ei rhan yn lleisio Lady Penelope ar gyfer pennod o Absolutely Fabulous. Bu'n gweithio fel chwilotwr talent yn Llundain ar gyfer HBO am 30 mlynedd.[1][2]
Cyhoeddwyd ei hunangofiant Yes M'Lady gyntaf yn 1991;[6] a fe'i hail-gyhoeddwyd fel My FAB Years yn 2007[8] gyda deunydd newydd i gynnwys hanes diweddaraf, fel ei gwaith yn ymgynghorydd cynhyrchu ar yr addasiad ffilm o Thunderbirds yn 2004. Rhyddhawyd My FAB Years ar ffurf CD yn 2010, wedi ei leisio gan Anderson.[9][10]
Yn 2013, gweithiodd Anderson gyda'i merch Dee, cantores jazz, ar syniad newydd am raglen deledu[2] o'r enw "The Last Station". Fe wnaethon nhw sefydlu ymgyrch godi arian torfol ar Indiegogo er mwyn i ddilynwyr gyfrannu a bod yn rhan o'r gyfres.
Roedd Anderson yn adnabyddus hefyd am ei gwaith elusennol, yn enwedig yn cefnogi Gofal Cancr y Fron[5] a Barnardo's.[11]
Yn 2015, teithiodd Anderson i'r Eidal i dderbyn Gwobr Pulcinella i gydnabod ei gyrfa mewn cynhyrchu teledu.[12][13]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Cafodd ddau blentyn gyda Gerry Anderson: merch. Dee Anderson a mab, Gerry Anderson Jr.[4]
Teledu
[golygu | golygu cod]AP Films
[golygu | golygu cod]- The Adventures of Twizzle (1957–59) – cynorthwyydd cynhyrchu
- Torchy the Battery Boy (first series) (1960) – cynorthwyydd cynhyrchu
- Four Feather Falls (1960) – cynorthwyydd cynhyrchu
- Supercar (1961–62) – cyfarwyddwr deialog, artist llais
- Fireball XL5 (1962–63) – artist llais
- Stingray (1964–65) – cynorthwyydd cynhyrchu
- Thunderbirds (1965–66) – datblygu cymeriadau, artist llais
Century 21
[golygu | golygu cod]- Captain Scarlet and the Mysterons (1967–68) – datblygu cymeriadau, artist llais
- Joe 90 (1968–69) – datblygu cymeriadau, artist llais
- The Secret Service (1969) – datblygu cymeriadau, artist llais
- UFO (1970–71) – dylunydd gwisgoedd
Group Three
[golygu | golygu cod]- The Protectors (1972–74) – cynorthwyydd cynhyrchu
- Space: 1999 (1975–77) – cynhyrchydd ("Year One")
ITV Studios and Pukeko Pictures
[golygu | golygu cod]- Thunderbirds Are Go! (2015) – artist llais (fel Great Aunt Sylvia)
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Crossroads to Crime (1960) – cynorthwyydd cynhyrchu
- Thunderbirds Are Go (1966) – cyd-awdur, cyd-gynhyrchydd, artist llais
- Thunderbird 6 (1968) – cyd-awdur, cyd-gynhyrchydd, artist llais
- Doppelgänger (1969) a.k.a. Journey to the Far Side of the Sun (US title) – cyd-awdur, cyd-gynhyrchydd
- Thunderbirds (2004) – ymgynghorydd cynhyrchiad
- Thunderbirds Are Go (2015) – artist llais
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 "Sylvia Anderson Biography". Space1999.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Rhagfyr 2012.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Griffin, Stephen (26 Mai 2013). "Sylvia Anderson: "The press loved Penelope and that made Gerry jealous"". Daily Express. Cyrchwyd 14 Awst 2013.
- ↑ Sylvia Anderson obituary: co-creator of Thunderbirds (en) , guardian.co.uk, 16 Mawrth 2016.
- ↑ 4.0 4.1 Association, Press (2016-03-16). "Thunderbirds' Sylvia Anderson, voice of Lady Penelope, dies aged 88". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2016-03-16.
- ↑ 5.0 5.1 "Sylvia Anderson, voice of Thunderbirds' Lady Penelope, dies - BBC News". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-03-16.
- ↑ 6.0 6.1 Sylvia Anderson (1991). Yes M'Lady. Smith Gryphon. ISBN 1-85685-011-0.
- ↑ Simon Archer, Stan Nicholls (1996). Gerry Anderson: the Authorised Biography. Legend Books. t. 171. ISBN 0-09-978141-7.
- ↑ Sylvia Anderson (2007). My FAB Years. Hermes Press. ISBN 1-932563-91-1.
- ↑ "My FAB Years – the Audiobook". SylviaAnderson.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-22. Cyrchwyd 2011-02-24.
- ↑ "My FAB Years – Abridged – Audible Audio Edition". Amazon.com. Cyrchwyd 2011-02-24.
- ↑ "Sylvia Anderson Leads Safety Campaign for Families with Jackloc - GloTIME". GloTIME (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-02. Cyrchwyd 2016-03-16.
- ↑ ""La Chouette & cie" récompensée à Venise — News — Studio Hari". www.studiohari.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-21. Cyrchwyd 2016-03-16.
- ↑ "Sylvia Anderson presented with the Special Pulcinella Award". Sylvia Anderson (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-18. Cyrchwyd 2016-03-16.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2016-03-17 yn y Peiriant Wayback
- Sylvia Anderson ar wefan yr Internet Movie Database