Swrcod

Oddi ar Wicipedia
Scoliopteryx libatrix
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Allophyes
Rhywogaeth: A. oxyacanthae
Enw deuenwol
Allophyes oxyacanthae
(Linnaeus, 1758)

Mae'r swrcod (Lladin: Scoliopteryx libatrix) yn wyfyn yn y teulu Noctuidae. Mae'r teulu'n cynnwys tua 35,000 o rywogaethau, mwy nag unrhyw deulu arall yn y Lepidoptera, sef Urdd o bryfetach sy'n cynnwys gloynnod byw a gwyfyn]]od. Ar gyfartaledd, mae ei adennydd agored tua 44 mm.

Mae cyfnod hedfan yr herald rhwng Mehefin a Tachwedd. Yn ystod y gaeaf, bydd y gwyfyn yn gaeafgysgu mewn man tywyll, oer (ee ysguboriau ac ogofâu), gan ddychwelyd i hedfan eto o fis Mawrth i fis Mehefin. Ei gynefin yw parciau a gerddi coetiroedd, ac efallai o ganlyniad, mae'r adain pan fo'n gorffwys yn debyg i ddeilen wyw wedi crebachu.

Mae lindys yr herald yn wyrdd llachar sy'n gyffredin i lawer o lindys. Maent yn cael eu adnabod gan y llinellau melyn tenau ac amlwg sy'n rhedeg ar draws y corff rhwng segmentau. Pan fo'n oedolyn, maen'n clymu ei hun rhwng dwy ddeilen ac yn troi'n chwiler (cocwn) gwyn.