Sue Charles

Oddi ar Wicipedia

Cyflwynydd tywydd ar BBC Wales yw Sue Charles.[1][2]  Mae Sue yn cyflwyno rhagolygon y tywydd yn y bore ac ar y penwythnos ar gyfer Wales Today, yn ogystal â llenwi mewn ar gyfer y meteorolegwr Derek Brockway.

Fe'i ganwyd a'i haddysgwyd yn Llandrindod, Powys, fe gymerodd swydd wyliau gyda Radio Wyvern. Fe ddechreuodd ar y rhaglen ieuenctid "Street Cred," ac fe aeth ymlaen i gynhyrchu a sefyll fewn fel cyflwynydd newyddion adeg y Nadolig.

Symudodd i BBC Radio 1, lle ddaeth yn ohebydd cerddoriaeth, cyn symud i BBC Radio 2 yn 1991, ac yna i BBC Radio Wales fel newyddiadurwraig.[3]

Yn 1998 fe wnaeth Sue symud i fyd teledu fel cyflwynydd ar Wales Today[4] Fe ymunodd a'r tîm tywydd yn 2008, ynghyd a'i chyd-gyflwynydd tywydd Behnaz Akhgar.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]