Neidio i'r cynnwys

Stryd y Baddon, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Stryd y Baddon
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Stryd y Baddon o Llys y Brenin. Gellir gweld rhan o Amgueddfa Ceredigion ar y dde ac yna arwydd cwmni theatr Arad Goch yn bellach ymlaen

Un o brif strydoedd canol trefn Aberystwyth yw Stryd y Baddon (Saesneg: Bath Street). Mae'n rhedeg gyfrochrog i'r Promenâd, rhwng y môr a Stryd Portland.

Stryd y Baddon, edrych i'r gogledd

Datblygwyd y stryd yn ail hanner 19g wrth i'r dref lwyddo i sychu'r morfa oedd wrth droed yr hen dref ganoloesol. Enw gwreiddiol ar y stryd oedd "Newfoundland Street" (h.y. "New Found Land"). Newidiwyd yr enw i "Bath Street" yn y 1890au cynnar.[1] Arferai sinema'r Conway (a newidiwyd wedyn i'r Celtic) sefyll ar y stryd.[2]

Llys y Brenin

[golygu | golygu cod]

Yn ffinio ochr ddeheuol Stryd y Baddon a Ffordd y Môr, mae fflatiau a man cyfarfod sgwâr Llys-y-Brenin.

Adeiladwyd yr hen Neuadd y Brenin (King's Hall) yn 1933, ar safle'r hen 'Waterloo Temperance Hotel' (a ddifethwyd yn gyfan gwbl gan dân yn 1919)[3] a nifer o dai eraill. Roedd yn adeilad Art Deco trawiadol bu'n cynnal cyngherddau a digwyddiadau o bob math gan gynnwys hefyd, ceir clatcho a hap-chwarae.

Dymchwelwyd yr adeilad yn 1989[4] ac yn ei le, adeiladu fflatiau Llys-y-Brenin a man agored lle cynhelir digwyddiadau megis Seremoni flynyddol Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth. Ceir yno siopau a lle trin gwallt ar y sgwâr ar y llawr daear a fflatiau uwchben.

Nodweddion

[golygu | golygu cod]
Sinema'r Commodore

Mae'r stryd yn cynnwys tai preifat - sydd yn lletya myfyrwyr a theuluoedd, yn aml mewn fflatiau oddi fewn i'r tai. Mae'r tai yn 3 neu 4 llawr o uchder. Mae'r stryd cynnwys sawl adeilad o bwys i'r dref a'i thrigolion:

  • Sinema'r Commodore
  • Canolfan Theatr Arad Goch
  • Eglwys Saesneg St David's
  • Sgwâr Llys-y-Brenin, lle bu Neuadd y Brenin gynt
  • Rhan o adeilad Amgueddfa Ceredigion
  • Canolfan Fethodistaidd St Paul
  • Y Bañera - bar coctêl, ar safle'r hen Ganolfan Groeso
  • Golchdy (a llety hunan-ddarpar) Maes-y-Môr

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Archifdy Ceredigion - rhestr o newidiadau i enwau strydoedd Aberystwyth dros amser" (PDF). Cyrchwyd 2018-05-11.
  2. https://www.casgliadywerin.cymru/items/26817
  3. http://pint-of-history.wales/explore.php?func=showpub&id=273
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-01. Cyrchwyd 2018-05-11.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]