Steve Wright

Oddi ar Wicipedia
Steve Wright
GanwydStephen Richard Wright Edit this on Wikidata
26 Awst 1954 Edit this on Wikidata
Greenwich Edit this on Wikidata
Bu farw12 Chwefror 2024 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • The Eastwood Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd radio Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amSteve Wright in the Afternoon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.bbc.co.uk/radio2/shows/wright/ Edit this on Wikidata

Roedd Stephen Richard Wright MBE (26 Awst 195412 Chwefror 2024) yn droellwr disgiau o Loegr, yn bersonoliaeth radio, ac yn gyflwynydd teledu achlysurol. Cafodd y clod am gyflwyno y fformat 'radio sŵ' i wledydd Prydain gan greu casgliad doniol o bersonoliaethau yn y rhaglen. Cyflwynodd Steve Wright in the Afternoon am 12 mlynedd ar BBC Radio 1 a 23 mlynedd ar BBC Radio 2, dwy o orsafoedd radio cenedlaethol y BBC.

Parhaodd i gyflwyno ei Sunday Love Songs ar Radio 2 hyd ei farwolaeth ac, ym mis Hydref 2023, cymerodd yr awenau fel cyflwynydd y sioe siartiau Pick of the Pops a fu’n rhedeg ers 1955. Ar deledu'r BBC, cyflwynodd Home Truths, The Steve Wright People Show, Auntie's TV Favourites, Top of the Pops a TOTP2.[1] Enillodd Wright wobrau, gan gynnwys DJ Gorau'r Flwyddyn fel y pleidleisiwyd gan y Daily Mirror Readers Poll a gan ddarllenwyr Smash Hits yn 1994. Ym 1998 dyfarnwyd Personoliaeth y Flwyddyn TRIC iddo am ei raglenni radio.[1]

Bywyd cynnar a gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed Stephen Richard Wright ar 26 Awst 1954 yn Greenwich,[2] a'i fagu yn New Cross, De Llundain. Roedd ganddo frawd, Laurence.[3] Roedd eu tad, Richard, yn rheoli siop Burton's yn Sgwâr Trafalgar.[3]

Addysgwyd Wright yn Eastwood High School for Boys, ger Southend-on-Sea, Essex, lle cychwynodd ddarlledu sioe radio dros y system sain o'r cwpwrdd stoc. Ymunodd yn wreiddiol â staff y BBC yn y 1970au cynnar gan weithio fel clerc dychweliadau yn y Gramophone Library yn Egton House, gyferbyn â Broadcasting House yn Llundain, cyn gadael i ddechrau darlledu yn 1976 ar Thames Valley Radio 210 yn Reading, Berkshire. Ym 1979, cafodd Wright ei gyfle fawr cyntaf yn Radio Luxembourg, lle cyflwynodd sioe nosweithiol.[4]

BBC Radio 1[golygu | golygu cod]

Ymunodd Wright â BBC Radio 1 ar 5 Ionawr 1980[5] gan gymryd drosodd slot nos Sadwrn cyn symud i fore Sadwrn yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Steve Wright in the Afternoon[golygu | golygu cod]

Symudodd Wright i radio dyddiol gyda Steve Wright in the Afternoon ym 1981, gan gyflwyno fformat 'sŵ' i’r sioe yn ddiweddarach.[6]

Roedd rhediad cyntaf Steve Wright in the Afternoon rhwng 1981 a 1993 ar BBC Radio 1. Roedd gan y sioe gast o gymeriadau wedi'u creu a'u perfformio gan Gavin McCoy, Peter Dickson, Richard Easter a Phil Cornwell. Yn yr un modd a'i fentor, Kenny Everett, aeth Wright allan o'i ffordd i fod yn amharchus, gan gynnwys straeon a gymerwyd o'r Weekly World News. Arweiniodd y llwyddiant at sengl lwyddiannus, I'll Be Back, a ryddhawyd dan yr enw Arnee and the Terminaters.[7] Yn ddiweddarach, newidiodd yr arddull, gan gael gwared y rhan fwyaf o'r cymeriadau a chael fformat sŵ gyda gwesteion ffug a sgetshis comedi. Ymunodd "posse" o gynhyrchwyr a staff radio. Cymeriad rheolaidd arall oedd "Mr Angry from Purley".[8]

Ysbrydolwyd sengl boblogaidd The Smiths "Panic" (1986) gan Wright yn chwarae "I'm Your Man" gan Wham! yn dilyn bwletin newyddion am drychineb niwclear Chernobyl. Roedd Johnny Marr a Morrissey yn gwrando ac roedd y cyferbyniad mewn tôn wedi eu anesmwytho. Wedi cwblhau geiriau'r gân am y digwyddiad, "Hang the DJ", ymddangosodd y slogan hwn ar grys-T hyrwyddo uwchben llun o Wright.[9] Cymerodd Wright hyn yn ei hwyliau a phrynodd un o'r crysau-T.

Brecwast Radio 1[golygu | golygu cod]

Symudodd Wright a'i griw i The Radio 1 Breakfast Show ym 1994. Ymddiswyddodd o'r Breakfast Show ym 1995 oherwydd gwahaniaethau gyda rheolwyr BBC Radio 1 a gostyngiad yn y niferoedd gwrando. Ar yr un pryd fe adawodd nifer o'r DJs mwy sefydledig, neu cafwyd eu diswyddo.[10]

Radio masnachol[golygu | golygu cod]

Cafodd Wright gynnig sioe newydd gan yr orsaf fasnachol newydd Talk Radio ym 1995, lle cyflwynodd sioe ar fore Sadwrn.[11]

BBC World Service[golygu | golygu cod]

Ymunodd Wright â BBC World Service ar 5 Ionawr 1999, gan gyflwyno rhaglen 1 awr, Wright Around The World. [12] Roedd y sioe hon ymlaen bob prynhawn Sadwrn hyd at y sioe olaf ar 25 Hydref 2003.[13] Roedd hyn yn golygu ei fod bellach yn darlledu ar Radio'r BBC am saith diwrnod yr wythnos.

BBC Radio 2[golygu | golygu cod]

Ymunodd Wright â BBC Radio 2 ym mis Mawrth 1996, lle dechreuodd gyflwyno Steve Wright's Saturday Show (1996–1999), Sunday Love Songs gan Steve Wright (1996–2024, hyd ei farwolaeth), a’i sioe brynhawn gan ddechrau ym mis Gorffennaf 1999 tan fis Medi 2022. Yn 2006, dywedwyd bod Wright yn ennill £440,000 y flwyddyn yn Radio 2. Yn 2018–2019, roedd cyflog Wright rhwng £465,000 a £469,000, sy’n golygu mai ef oedd pumed cyflwynydd enillion uchaf y BBC. Roedd wedi cymryd toriad cyflog o £85,000 o'r flwyddyn flaenorol, fodd bynnag, fel rhan o ymdrech i gydraddoli cyflog dynion a merched.[14]

Steve Wright in the Afternoon[golygu | golygu cod]

Yng nghanol 1999 yn dilyn ad-drefnu yn Radio 2, adfywiwyd Steve Wright in the Afternoon, gyda Wright yn cymryd drosodd y slot hwn oddi wrth Ed Stewart. Cymerodd Jonathan Ross drosodd slot Wright ar fore Sadwrn.[15]

Cyflwynodd Wright ei fersiwn Radio 2 o Steve Wright in the Afternoon ar brynhawniau yn ystod yr wythnos o 2pm tan 5pm, ochr yn ochr â Tim Smith a Janey Lee Grace, sydd ill dau wedi ymddangos yn achlysurol fel cyflwynwyr llenwi ar yr orsaf, yn ogystal â’r gohebydd traffig Bobbie Pryor. Roedd cyfrannwr cyson arall a adnabyddwyd yn unig fel "The Old Woman". Datgelwyd yn ddiweddarah mai Joyce Frost oedd y ddynes, a fu farw ym mis Tachwedd 2016.[16] Byddai Smith a Wright yn cyflwyno "factoids" yn rheolaidd, a ddisgrifiwyd fel "talpiau disglair o wybodaeth mor anhygoel na ddylent fod yn wir, ond maent!"[17][18]

Ar 1 Gorffennaf 2022 cyhoeddodd Wright y byddai'r sioe yn dod i ben ym mis Medi, i'w disodli gan sioe newydd gyda Scott Mills. Byddai Wright yn aros ar Radio 2 i barhau i gyflwyno Sunday Love Songs, ynghyd â phodlediad newydd Serious Jockin', rhaglenni arbennig tymhorol a phrosiectau eraill.[19] Darlledwyd y sioe olaf ar 30 Medi 2022, gyda Wright yn chwarae "Radio Ga Ga" gan Queen fel ei record olaf.[20]

Sunday Love Songs[golygu | golygu cod]

Roedd Sunday Love Songs, a gyflwynodd Wright ar ben ei hun ar fore Sul ar Radio 2 o 31 Mawrth 1996 tan 11 Chwefror 2024, y diwrnod cyn ei farwolaeth, yn cynnwys cyfuniad o ganeuon serch clasurol, negeseuon gan wrandawyr a straeon rhamant bywyd go iawn. Yn 2013 beirniadodd pwyllgor safonau golygyddol Ymddiriedolaeth y BBC y sioe am dorri’r canllawiau ar gywirdeb a rhyngweithio â’r gynulleidfa, ar ôl i adroddiadau yn y cyfryngau ddatgelu bod y sioe wedi’i recordio ar ddydd Gwener mewn gwirionedd.[21]

Roedd darllediad olaf Wright, ar y diwrnod cyn ei farwolaeth, ond a recordiwyd ddau ddiwrnod ynghynt, ar gyfer rhifyn Dydd San Ffolant arbennig o'r sioe hon.[22] Yr wythnos ganlynol, darlledwyd rhaglen arbennig, dan ofal Liza Tarbuck, yn darllen negeseuon gan bobl a gafodd negeseuon eu darllen gan Wright dros y 28 mlynedd diwethaf, ac yn chwarae detholiad o hoff draciau Wright.[23]

Pick of the Pops[golygu | golygu cod]

Ar 10 Awst 2023 cyhoeddwyd y byddai Wright yn dod yn gyflwynydd newydd Pick of the Pops, o 14 Hydref 2023, gan gymryd lle Paul Gambaccini.[24]

Gyrfa y tu allan i radio[golygu | golygu cod]

Rhwng 1980 a 1989, roedd Wright yn gyflwynydd rheolaidd ar Top of the Pops. Cyflwynodd Wright hefyd gyfres deledu i'r BBC, The Steve Wright People Show, o 1994 i 1995. Ei gyfnod nesaf ym myd teledu oedd fel adroddwr ac awdur y sioe bop retro Top of the Pops 2 rhwng 1997 a 2009. Y bennod olaf TOTP2 a gyflwynodd oedd darllediad arbennig Michael Jackson ar 27 Mehefin 2009.[25]

Siart y DU[golygu | golygu cod]

Tra'n gyflwynydd radio ar BBC Radio 1, rhyddhawyd Wright nifer o ganeuon yn siartiau'r DU ynghyd ac aelodau o'i Afternoon Posse (y tîm radio amser gyrru) gan gynnwys y gân 10 uchaf "I'll Be Back" a oedd yn cynnwys Wright fel un o'r band cefnogi, 'The Terminaters', ar rifyn 29 Awst 1991 o Top of the Pops ar BBC One.[26][27]

  • Young Steve and the Afternoon Boys – "I'm Alright" (RCA Records 1982, single) UK Singles Chart rhif 40[28]
  • Steve Wright and the Sisters of Soul – "Get Some Therapy" (RCA Records 1983, sengl) UK Singles Chart rhif 75[29]
  • Steve Wright – "The Gay Cavalieros (The Story So Far...)" (MCA 1984, sengl) UK Singles Chart rhif 61 yn Rhagfyr 1984[30]
  • Mr. Angry With Steve Wright – "I'm So Angry" (MCA 1985, sengl)[31] UK Singles Chart rhif 90 yn Awst 1985.[32]
  • Mr Food – "And That's Before Me Tea!"[33] (Tangible Records, sengl) UK Singles Chart rhif 62 yn Ebrill 1990[34]
  • Arnee and the Terminaters – "I'll Be Back" (Epic Records 1991, sengl) UK Singles Chart rhif 5[35]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Yn 1985 priodd Wright â Cyndi Robinson, newyddiadurwr Americanaidd a gyfarfu pan oedd yn gweithio yn Reading.[36][37] Roedd gan y cwpl ddau o blant ac fe wnaethon nhw ysgaru yn 1999.[38][39]

Roedd Wright yn byw yn Marylebone, Llundain, yn agos i Broadcasting House.[40] Ym mis Gorffennaf 2019, dywedodd wrth y Daily Mirror nad oedd ganddo amser i chwilio am bartner newydd, oherwydd ei fod yn gweithio cymaint ar ei raglenni radio. Meddai, "Rwy'n gweithio ar sioe prynhawn ar y BBC, ac rwy'n gwneud sioe caneuon serch ar y penwythnos, ac mae'n golygu fy mod yn gwneud llawer o gyfweliadau, ac rwy'n paratoi llawer ac rwy'n ysgrifennu llawer. Felly mae'n rhaid i mi weithio drwy'r amser." Datgelodd mai'r Rolling Stones oedd ei hoff act gerddorol.[14] Roedd sïon bod ganddo alergedd i blu a phenisilin ac roedd wedi siarad am ei broblemau pwysau.[41]

Penodwyd Wright yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2024 am wasanaethau i radio.[42]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Wright ar 12 Chwefror 2024, yn 69 oed, yn ei gartref yn Marylebone, Llundain. Ymatebodd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain i ddigwyddiad am 10:07 y bore hwnnw; cyhoeddwyd bod Wright wedi marw yn y fan a’r lle. Dywedodd yr heddlu fod y farwolaeth yn "annisgwyl", ond nad oedd yn cael ei thrin fel un amheus.[40] Cyhoeddwyd ei farwolaeth gan ei deulu y diwrnod canlynol.[43][44][45]

Yn y dyddiau yn dilyn ei farwolaeth, fe wnaeth brawd Wright, Laurence Wright, feio ei farwolaeth ar ddiet gwael.[46]

Torrwyd y newyddion am y tro cyntaf ar BBC Radio 2 yn ystod bwletin 13 Chwefror am 5pm gan y darllenydd newyddion Mike Powell a oedd yn darllen y newyddion ar raglen brynhawn Steve Wright yn rheolaidd. Yna arweiniwyd teyrngedau, ar yr awyr, gan ei gyd-DJ Radio 2, Sara Cox.[47] Cafwyd teyrnged gan ei gydweithiwr Tony Blackburn ar X, a siaradodd ar y rhaglen PM ar BBC Radio 4, Sky News a BBC Newsnight am ei gyfeillgarwch hir â Wright.[48] Disgrifiwyd Wright gan Tim Davie, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, fel “...darlledwr gwirioneddol wych sydd wedi bod yn rhan enfawr o gynifer o’n bywydau dros sawl degawd. mewn cysylltiad â'i wrandawyr."[49]

Ar 16 Chwefror cyhoeddodd y BBC amserlen arbennig o raglenni, ar draws teledu a radio, i gofio Wright.[50]

Llyfrau[golygu | golygu cod]

  • Steve Wright's Book of the Amazing But True: Trivia for the Connoisseur, Pocket Books (1995) ISBN 978-0671854829
  • Just Keep Talking: Story of the Chat Show, Simon & Schuster (1997) ISBN 978-0684816999
  • Steve Wright's Book of Factoids, HarperCollins Publishers (UK), (2005) ISBN 0-00-720660-7
  • Steve Wright's Further Factoids, HarperCollins Publishers (UK), (2007) ISBN 978-0007255191

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Steve Wright". BBC. Cyrchwyd 9 Chwefror 2021.
  2. "Radio 2 – Presenters – Steve Wright". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
  3. 3.0 3.1 "Steve Wright, legendary Radio 2 presenter, dies aged 69". The Independent (yn Saesneg). 2024-02-13. Cyrchwyd 2024-02-13.
  4. McFadden, Brendan (13 Chwefror 2024). "Tributes pour in for Steve Wright after beloved Radio 2 DJ dies aged 69". inews.co.uk. Cyrchwyd 14 Chwefror 2024.
  5. Evening Standard - 29 Nov 1979, Page 6
  6. "Steve Wright in the Afternoon" (yn en), Wikipedia, 2024-02-13, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Steve_Wright_in_the_Afternoon&oldid=1206982851, adalwyd 2024-02-13
  7. Roberts, David (2005). British Hit Singles & Albums (arg. 18th). London: Guinness World Records Limited. t. 34. ISBN 1-904994-00-8.
  8. "Radio 1 Vintage: Mr Angry is less than impressed!". facebook.com. 30 Medi 2017. Cyrchwyd 13 Chwefror 2024.
  9. Goddard 2002, t. 194.
  10. Colm O'Rourke, "The Cull of Radio 1", Transdiffusion, 1 December 2003. Cyrchwyd 15 Chwefror 2024
  11. (yn en) Steve Wright's Talk Show – Talk Radio – 6 January 1996, https://www.youtube.com/watch?v=BQjWsVS5PBg, adalwyd 2023-08-07
  12. "Wright Around The World". BBC Genome. 9 Ionawr 1999. Cyrchwyd 4 Mehefin 2022.
  13. "Wright Around The World". BBC Genome. 25 Hydref 2003. Cyrchwyd 4 Mehefin 2022.
  14. 14.0 14.1 "Steve Wright's secret heartache". Mirror (yn Saesneg). 6 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 2023-12-30.
  15. "Rewind the years of Radio 1!". Cyrchwyd 17 Chwefror 2024.
  16. "'Old Woman' on Radio 2's Steve Wright show dies". bbc.co.uk. 10 Tachwedd 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Chwefror 2016. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2016.
  17. "BBC Radio 2 - Steve Wright in the Afternoon, With Hurts and Sharon Gless". BBC.
  18. "BBC Radio 2 - Steve Wright in the Afternoon - Giant penguins and tiny kangaroos - the amazing stories behind Steve Wright's factoids". BBC.
  19. "Scott Mills to replace Steve Wright on BBC Radio 2 afternoon show". BBC News. Gorffennaf 2022.
  20. Weaver, Matthew (30 Medi 2022). "Steve Wright signs off from Radio 2 afternoon show after 23 years". the Guardian. Cyrchwyd 13 Chwefror 2024.
  21. "Steve Wright tells Sunday Love Songs listeners to leave requests for prerecorded show". Telegraph.co.uk. 28 Mai 2018. Cyrchwyd 28 Mai 2018.
  22. Payne, Andre (13 Chwefror 2024). "BBC Radio 2's Steve Wright dies aged 69". musicweek.com. Cyrchwyd 14 Chwefror 2024.
  23. Nanji, Noor. "Steve Wright's Sunday Love Songs starts 'without the chief'". Cyrchwyd 18 Chwefror 2024.
  24. Bushby, Helen (10 Awst 2023). "Steve Wright and Paul Gambaccini get new Radio 2 shows". BBC News. BBC. Cyrchwyd 10 Awst 2023.
  25. "Michael Jackson Top of the Pops 2 Tribute". Cyrchwyd 17 Chwefror 2024.
  26. Top of the Pops on BBC One Thursday 29 August 1991, repeated on BBC Four Friday 24 September 2021 & Saturday 25 September 2021
  27. "BBC One – Top of the Pops, 29/08/1991". Bbc.co.uk.
  28. "YOUNG STEVE & THE AFTERNOON BOYS | full Official Chart History". Officialcharts.com. Cyrchwyd 9 Mai 2022.
  29. "STEVE WRIGHT | full Official Chart History | Official Charts Company". Official Charts.
  30. "THE GAY GAVALIEROS". Official Charts. 24 Tachwedd 1984.
  31. "45cat - Mr. Angry (With Steve Wright) - I'm So Angry / Angry Rap - MCA - UK - MCA 987".
  32. "I'M SO ANGRY FT STEVE WRIGHT". Official Charts. 24 Awst 1985.
  33. "MR FOOD | full Official Chart History | Official Charts Company". Official Charts.
  34. "NOSH TV Official Mr Food Channel &#124". YouTube.
  35. "ARNEE & THE TERMINATORS | full Official Chart History | Official Charts Company". Officialcharts.com. Cyrchwyd 9 Mai 2022.
  36. Dave Wright, "BBC DJ Steve Wright remembered by his Reading 210 colleagues", Reading Chronicle, 14 Chwefror 2024. Cyrchwyd 14 Chwefror 2024
  37. Ian Youngs, "Steve Wright: A radio giant and a feel-good friend to millions", BBC, 13 Chwefror 2024. Cyrchwyd 14 Chwefror 2024
  38. Watts, Halina; Kindon, Frances (2024-02-13). "Steve Wright's hidden heartaches from ex-wife split to Radio 2 sorrow". The Mirror (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-14.
  39. "Steve Wright Family: Know About Ex-Wife Cyndi Robinson And Children". TimesNow (yn Saesneg). 2024-02-13. Cyrchwyd 2024-02-14.
  40. 40.0 40.1 Simpson, Craig (14 Chwefror 2024). "Steve Wright was found dead at London home by paramedics after 'incident'". The Telegraph – drwy www.telegraph.co.uk.
  41. Banim, Julia (2024-02-13). "Steve Wright's health journey from rumoured allergies to inspiring weight loss". The Mirror (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-13.
  42. London Gazette: (Supplement) no. 64269. p. 1. 30 Rhagfyr 2023.
  43. "Tribute to Steve Wright MBE". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). 13 Chwefror 2024. Cyrchwyd 2024-02-13.
  44. Singh, Anita (Chwefror 2024). "BBC radio Steve Wright dies aged 69". The Telegraph. Cyrchwyd 13 Chwefror 2024.
  45. "Steve Wright, BBC Radio presenter, dies aged 69". The Guardian. 13 Chwefror 2024. Cyrchwyd 13 Chwefror 2024.
  46. London Evening Standard https://www.standard.co.uk/showbiz/steve-wright-brother-laurence-talks-cause-of-death-bbc-radio-2-dj-b1139436.html. Missing or empty |title= (help)
  47. "Steve Wright death: DJ found dead 'by paramedics at home' – latest". The Independent. 14 Chwefror 2024.
  48. "Tony Blackburn X".
  49. "Steve Wright, legendary Radio 2 presenter, dies aged 69". The Independent (yn Saesneg). 2024-02-13. Cyrchwyd 2024-02-14.
  50. "BBC confirms special schedule of content remembering Steve Wright". Radio Times.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]