Stadiwm Al Bayt

Oddi ar Wicipedia
Stadiwm Al Bayt
Mathstadiwm, association football pitch Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol30 Tachwedd 2021 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAl Khor Edit this on Wikidata
SirAl Khor (dinas) Edit this on Wikidata
GwladBaner Qatar Qatar
Cyfesurynnau25.652222°N 51.487778°E Edit this on Wikidata
Map

Stadiwm pêl-droed â tho y gellir ei dynnu'n ôl yn Al Khor, Qatar, yw Stadiwm Al-Bayt (Arabeg: استاد البيت‎).[1] Mae wedi'i leoli tua 35 km o Doha.[2] Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gemau Cwpan y Byd FIFA 2022,[3] a fydd yn dechrau 20 Tachwedd 2022.[2] Dyfarnwyd cytundeb adeiladu'r stadiwm i Webuild Sp A. a Cimolai yn 2015.[4] Ym mis Ionawr 2020, derbyniodd y stadiwm dystysgrifau cynaliadwyedd dylunio ac effeithlonrwydd ynni.[5]

Cynlluniau[golygu | golygu cod]

Bydd gêm agoriadol Cwpan y Byd Pêl-droed 2022 yn cael ei chynnal yn Stadiwm Al Bayt, 20 Tachwedd 2022.[6][7] Cafodd y dyluniad pensaernïol ei ysbrydoli gan bebyll traddodiadol pobl nomadig Qatar.[8] Bydd yn cynnwys to, y gellir ei dynnu'n ôl ac hefyd yn cynnwys ystafelloedd gwesty moethus ac ystafelloedd gyda golygfeydd balconi o'r cae pêl-droed.[9] Bydd y parcio ar y safle i 6,000 o geir ac o safbwynt trafnidiaeth gyhoeddus, bydd 350 o fysiau'n mynd a dod o'r safle a 150 o fysiau/gwennol cyhoeddus, yn ogystal â 1,000 o dacsis a thacsis dŵr. Bydd y stadiwm yn gallu dal tua 60,000 o gefnogwyr Cwpan y Byd 2022,[9] gan gynnwys 1,000 o seddi i'r wasg.

Adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA Qatar 2022[golygu | golygu cod]

Mae Stadiwm Al Bayt yn Qatar yn un o saith stadiwm sy'n cael eu trosi ar gyfer Cwpan y Byd FIFA Qatar 2022[10] a dyma'r ail stadiwm fwyaf ar ôl Stadiwm Eiconig Lusail.[11] Dyluniwyd y stadiwm gan Dar Al-Handasah.[12] Yn dilyn Cwpan y Byd 2022, disgwylir iddo gael ei addasu'n stadiwm â 32,000 o seddi yn ogystal â gwesty pum seren, canolfan siopa a chyfleusterau chwaraeon eraill.[13][14]

Datgelodd ymchwiliad yn 2021 gan The Guardian fod dros 6500 o weithwyr mudol o Bangladesh, India, Pacistan, Nepal a Sri Lanca wedi marw rhwng 2010 a 2020 wrth adeiladu lleoliadau Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.[15] Nid oedd y ffigurau a ddefnyddiwyd gan The Guardian yn cynnwys galwedigaeth na man gwaith y gweithwyr felly ni ellid cysylltu marwolaethau yn bendant â'r gwaith adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd 2022, ond mai “yr unig reswm roedd cyfran sylweddol iawn o’r gweithwyr mudol sydd wedi marw ers 2011 yn y wlad oherwydd i Qatar ennill yr hawl i gynnal Cwpan y Byd."

Hanes[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd y gêm gyntaf yn Stadiwm Al Bayt yn ystod Cwpan Arabaidd FIFA 2021, gan gynnwys rownd derfynol y twrnamaint ar 18 Rhagfyr 2021.[16][17]

Dyddiad Tîm #1 Canlyniad Tîm #2 Rownd
30 Tachwedd 2021  Qatar 1–0  Bahrain Grŵp A
3 Rhagfyr 2021  Syria 2–0  Tiwnisia Grŵp B
6 Rhagfyr 2021  Qatar 3–0  Irac Grŵp A
10 Rhagfyr 2021  Qatar 5–0  Emiradau Arabaidd Unedig Rownd yr wyth olaf

Cwpan y Byd FIFA 2022[golygu | golygu cod]

Bydd Stadiwm Al Bayt yn cynnal naw gêm yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022.

Dyddiad Tîm #1 Canlyniad Tîm #2 Rownd Presenoldeb
20 Tachwedd 2022  Qatar -  Ecwador Grŵp A
23 Tachwedd 2022  Moroco -  Croasia Grŵp F
25 Tachwedd 2022  Lloegr -  Unol Daleithiau America Grŵp B
27 Tachwedd 2022  Sbaen -  Yr Almaen Grŵp E
29 Tachwedd 2022  Yr Iseldiroedd -  Qatar Grŵp A
1 Rhagfyr 2022  Costa Rica -  Yr Almaen Grŵp E
4 Rhagfyr 2022 Enillwyr Grŵp B - Grŵp A ail safle Rownd 16
10 Rhagfyr 2022 Gêm Enillwyr 51 - Gêm Enillwyr 52 Chwarter-derfynol
14 Rhagfyr 2022 Gêm Enillwyr 59 - Gêm Enillwyr 60 Rowndiau Cynderfynol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Courtney". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-01. Cyrchwyd 2022-11-01.
  2. 2.0 2.1 "Al Bayt Stadium: All you need to know about Qatar's new 2022 World Cup venue". goal.com. 1 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 2 Mawrth 2022.
  3. Neha Bhatia (13 Awst 2015). "Revealed: The firms behind the construction Qatar's World Cup stadiums". Arabian Business. Cyrchwyd 13 Awst 2015.
  4. "Salini Cimolai JV - News". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Chwefror 2017. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  5. "Education City Stadium awarded prestigious sustainability certificates". FIFA. 16 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ionawr 2020. Cyrchwyd 18 Mai 2020.
  6. "Qatar World Cup to start at Al Bayt Stadium as schedule announced". thejakartapost.com. 16 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
  7. "A 5-star view of the World Cup: Qatar's Al Bayt stadium set to unveil jaw-dropping Sky Boxes". goal.com. 18 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 2 Awst 2021.
  8. "Al Bayt Stadium achieves outstanding sustainability rating". thepeninsulaqatar.com. 27 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
  9. 9.0 9.1 "World Cup 2022: A room with a view at Qatar's Al Bayt Stadium". aljazeera.com. 18 Medi 2019. Cyrchwyd 7 Mawrth 2022.
  10. "Qatar unveils Al Bayt Stadium design". arabianbusiness.com. 22 Mehefin 2014. Cyrchwyd 2 Awst 2021.
  11. "New images of Al-Bayt World Cup stadium confirm completion". en.as.com. 19 Hydref 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-25. Cyrchwyd 2 Awst 2021.
  12. "Qatar 2022 stadiums continue to take shape despite pandemic". thepeninsulaqatar.com. 4 Ionawr 2021. Cyrchwyd 4 Awst 2021.
  13. "Al Bayt Stadium achieves outstanding sustainability rating". fifa.com. Cyrchwyd 10 Awst 2021.
  14. "Al-Bayt Stadium in Al Khor, Qatar for FIFA World Cup 2022". footballcoal.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-01. Cyrchwyd 1 Ebrill 2022.
  15. "Revealed: 6,500 migrant workers have died in Qatar since World Cup awarded". TheGuardian.com. 23 Chwefror 2021.
  16. "Amir attends FIFA Arab Cup final match,closing ceremony". gulf-times.com. 18 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 10 Mawrth 2022.
  17. "2021 FIFA Arab Cup: Participating teams, fixtures and all you need to know". goal.com. 18 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 10 Mawrth 2022.