Stadiwm Eiconig Lusail

Oddi ar Wicipedia
Stadiwm Eiconig Lusail
Mathstadiwm, stadiwm pêl-droed Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol22 Tachwedd 2022 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLusail Edit this on Wikidata
GwladBaner Qatar Qatar
Cyfesurynnau25.421°N 51.49°E Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethQatar Football Association Edit this on Wikidata

Stadiwm pêl-droed yn Lusail, Qatar, yw Stadiwm Eiconig Lusail (Arabeg: ملعب لوسيل الدولي‎). Bydd y stadiwm yn cynnal gêm olaf Cwpan y Byd FIFA 2022.[1]

Stadiwm Lusail, sy'n eiddo i Gymdeithas Bêl-droed Qatar,[2] yw'r stadiwm mwyaf yn Qatar ac un o wyth stadiwm sy'n cael eu defnyddio ar gyfer Cwpan y Byd 2022 FIFA Qatar.[3]

Mae'r stadiwm wedi ei leoli tua 23 km i'r gogledd o Doha.[2] Cafodd Stadiwm Lusail ei urddo ar 9 Medi 2022 gyda gêm Cwpan Lusail Super.[4]

Dechreuodd y broses ar gyfer trawsnewid y stadiwm yn 2014.[5] Adeiladwyd y stadiwm fel menter ar y cyd gan HBK Contracting (HBK) a China Railway Construction Corporation (CRCC).[6][7]

Cynlluniwyd y stadiwm gan Foster + Partners a Populous,[8] ac fel y stadia eraill sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Cwpan y Byd 2022, bydd Stadiwm Lusail yn cael ei oeri gan ddefnyddio pŵer solar a bydd ganddo ôl troed di-garbon.[9]

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 11 Ebrill 2017[10] ac roedd wedyn i gynnal tair gêm gyfeillgar tan Gwpan y Byd 2022.[11] ond gohiriwyd y gwaith o gwblhau’r stadiwm.[12]

Mewn adroddiad ym mis Medi 2021, beirniadodd Amnest Qatar am fethu ag ymchwilio i farwolaethau gweithwyr mudol.[13]

Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd Amnest ganlyniadau arolwg barn o dros 17,000 o gefnogwyr pêl-droed o 15 gwlad a ddangosodd fod 73% yn cefnogi bod FIFA yn digolledu gweithwyr mudol yn Qatar am droseddau hawliau dynol.[14] Cyhoeddodd FIFA ddatganiad ar ôl arolwg barn Amnest a oedd yn cyfeirio at y gwelliant a wnaed i weithwyr mudol.[15]

Cwpan y Byd FIFA 2022[golygu | golygu cod]

Bydd Stadiwm Eiconig Lusail yn cynnal 10 gêm yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022, gan gynnwys y rownd derfynol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Lusail Stadium". stadiumguide.com. Cyrchwyd 12 Ebrill 2022.
  2. 2.0 2.1 "Lusail Iconic Stadium World Cup 2022: Qatar World Cup Stadium". fifaworldcupnews.com. 23 Medi 2021. Cyrchwyd 17 February 2022.
  3. "Chinese company and HBK JV to build Lusail stadium". constructionweekonline.com. 29 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2021.
  4. "Photos: Lusail Super Cup tests stadium hosting World Cup final". www.aljazeera.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Medi 2022.
  5. "Flagship Lusail stadium next on Qatar's list". constructionweekonline.com. 27 Chwefror 2015. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2021.
  6. "Chinese company and HBK JV to build Lusail stadium". constructionweekonline.com. 29 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2021.
  7. "Chinese firm in JV to build Lusail Stadium in Qata". meconstructionnews.com. 1 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2021.
  8. "Lusail Stadium by Foster + Partners and Populous". archdaily.com. Cyrchwyd 12 Ebrill 2022.
  9. "Qatar's Lusail Iconic Stadium for Solar World Cup Stadium". architecture-view.com. 27 Hydref 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mehefin 2016. Cyrchwyd 24 Chwefror 2022.
  10. "Work starts on Qatar World Cup final stadium at Lusail". thepeninsulaqatar.com. 12 April 2017. Cyrchwyd 24 February 2022.
  11. "Qatar: Lusail Stadium will be ready by 2020". thehindu.com. 15 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 8 Ionawr 2021.
  12. "Foster + Partners designs golden stadium for Qatar World Cup final". dezeen.com. 19 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2021.
  13. "Qatar: "In the prime of their lives": Qatar's failure to investigate, remedy and prevent migrant workers' deaths". Amnesty International (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
  14. "Qatar: Global survey shows overwhelming demand for FIFA to compensate World Cup migrant workers". Amnesty International (yn Saesneg). 14 Medi 2022. Cyrchwyd 21 Medi 2022.
  15. "Qatar World Cup: Calls for FIFA to contribute to compensation scheme for workers in host country receive strong support". Sky Sports. 15 Medi 2022.