De Osetia
| Math | gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, gwlad dirgaeedig, tiriogaeth ddadleuol |
|---|---|
| Prifddinas | Tskhinvali |
| Poblogaeth | 56,520 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | National Anthem of South Ossetia |
| Pennaeth llywodraeth | Constantine Dzhussoev |
| Cylchfa amser | UTC+03:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Oseteg, Georgeg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Georgia, De Osetia |
| Arwynebedd | 3,900 km² |
| Yn ffinio gyda | Rwsia |
| Cyfesurynnau | 42.225°N 43.97°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Government of South Ossetia |
| Corff deddfwriaethol | Parliament of South Ossetia |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | President of South Ossetia |
| Pennaeth y wladwriaeth | Alan Gagloyev |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog De Osetia |
| Pennaeth y Llywodraeth | Constantine Dzhussoev |
![]() | |
| Arian | Rŵbl Rwsiaidd, Commemorative coins of South Osetia |

Tiriogaeth ddadleuol yn y Cawcasws yw De Osetia (Oseteg: Хуссар Ирыстон, Khussar Iryston; Georgeg: სამხრეთ ოსეთი, Samkhret Oseti; Rwseg: Южная Осетия, Yuzhnaya Osetiya). Yn ôl cyfraith ryngwladol, mae'n rhan de jure o weriniaeth Georgia, ond mae'n weriniaeth annibynnol de facto gyda chysylltiadau agos â Gogledd Osetia, sy'n rhan o Ffederasiwn Rwsia. Yn hanesyddol, mae'n rhan o Osetia, un o sawl cenedl hanesyddol bychan yn y Cawcasws. Tskhinvali yw'r brifddinas. Cydnabyddir De Osetia gan ychydig o wledydd eraill yn unig.
Mae tua 60-70% o'r boblogaeth yn Osetiaid, ac yn Gristnogion sy'n siarad Oseteg, iaith sy'n debyg i Farsi.Ond ceir pryder am ddyfodol yr iaith Oseteg oherwydd diffyg addysg a hefyd gwahaniaethau tafodiaethol o fewn De a Gogledd Osetia.[1] Mae gweddill y boblogaeth, yn bennaf yn y de, yn Georgiaid.
Cyhoeddwyd gweriniaeth annibynnol De Osetia gan wrthyfelwyr yn erbyn awdurdod Georgia yn 2001, ar ôl cyfnod o anghydfod a gwrthryfel. Erbyn heddiw mae tua 90% o boblogaeth y diriogaeth yn dal pasbortau Rwsiaidd, a hynny ar anogaeth Rwsia ei hun. Sefydlwyd llu heddwch yn y diriogaeth, yn cynnwys milwyr Rwsiaidd yn bennaf ac unedau o fyddin Georgia.
Yn ystod y nos ar 7 Awst 2008, ymosododd lluoedd arfog Georgia ar y gwrthryfelwyr a bomiwyd rhannau o ddinas Tskhinvali gan gychwyn Rhyfel De Osetia. Ymateb Rwsia, a oedd wedi bod yn crynhoi adnoddau milwrol ar y ffin am tua dau fis, oedd anfon ei milwyr i mewn i Dde Osetia.
Mae Oseteg a Rwseg yn ieithoedd swyddogol o fewn y tiriogaeth.

Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) BBC News: Proffil De Osetia
