Sosej cytew

Oddi ar Wicipedia
Sosej cytew

Pryd of fwyd traddodiadol Saesneg yw sosej cytew (neu selsig cytew, Saesneg: toad-in-the-hole)[1][2] yn cynnwys selsig mewn cytew pwdin Efrog. Fe weinir fel arfer gyda grefi winwns a llysiau.[3] Yn hanesyddol roedd hefyd wedi'i pharatoi gan ddefnyddio cigoedd eraill, fel stêc rwmp ac aren oen.

Gwreiddiau[golygu | golygu cod]

Daeth pwdinau cytew yn boblogaidd yn gynnar yn y 18fed ganrif.[4] Tynnodd Jennifer Stead sylw at ddisgrifiad o rysáit sy'n union yr un fath â 'sosej cytew' o ganol y ganrif.[5] Ar yr adeg hon, roedd Ogleddwyr yn tueddu i ddefnyddio toddion i wneud eu pwdinau yn fwy creisionllyd, tra bod Ddeheuwyr yn gwneud pwdinau Efrog meddalach.[6]

Ymddangosodd prydiau fel sosej cytew mewn print mor gynnar â 1762, lle cafodd ei ddisgrifio fel enw 'di-chwaeth' am 'ddarn bach o gig eidion wedi'i bobi mewn pwdin mawr'.[7] Yn wreiddiol, crëwyd sosej cytew fel ffordd i ymestyn cig mewn cartrefi tlawd,[8] felly awgrymodd cogyddion y dylid defnyddio'r cigoedd rhataf yn y ddysgl hon. Ym 1747, er enghraifft, rhestrodd The Art of Cookery gan Hannah Glasse rysáit ar gyfer 'pigeon-in-a-hole', gan alw am golomen yn hytrach na'r selsig cyfoes.[9] Ym 1861, rhestrodd Isabella Beeton rysáit debyg yn defnyddio stêc rwmp ac aren oen, tra bod rysáit Charles Elme Francatelli ym 1852 yn gofyn am 'werth 6d. neu 1s. o unrhyw gig rhad.[10] Disgrifiwyd y rysáit hon fel 'cig stiwio Saesneg wedi'i ail-goginio' (lesso rifatto all'inglese) neu 'toad-in-the-hole', yn llyfr bwyd modern cyntaf yr Eidal,[11] a bwysleisiodd rhaid i'r cig fod dros ben o stiwiau ac wedi'u hail-goginio mewn cytew.

Enw[golygu | golygu cod]

Mae'r enwau Cymraeg am y pryd, "sosej cytew" a "selsig cytew" yn disgrifio cynhwysion y pryd yn union.[12][13] Nid yw hyn yn cyfeirio at y pryd Prydeinig arall a elwir yn Saesneg "battered sausage".

Y mae'r enw Saesneg, "toad in the hole", yn fwy diddorol. Ym 1787 yn y llyfr A Provincial Glossary cyfeiriwyd at y pryd hwn fel "cig wedi'i ferwi mewn crystyn". Ymddangosodd y gair "twll" yn gyntaf, heblaw am pigeons-in-a-hole, yng nghyhoeddiad 1900 Notes & Queries, a ddisgrifiodd y ddysgl fel "pwdin cytew gyda thwll yn y canol yn cynnwys cig".[8] Does dim cofnod o'r pryd erioed yn cael ei gwneud gyda llyffant. Mae tarddiad yr enw yn aneglur, ond gall gyfeirio at y ffordd y mae llyffantod yn aros am eu hysglyfaeth yn eu tyllau, gan wneud eu pennau yn weladwy yn y ddaear, yn union fel mae'r selsig yn sbecian trwy'r cytew.[14] Efallai ei fod hefyd yn deillio o'r "Llyffant Antediluvian", ffenomen lle canfuwyd llyffantod byw wedi eu gorchuddio â charreg, a oedd yn fad gwyddonol o ddiwedd y 18fed ganrif.[15]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Ayto (18 October 2012). The Diner's Dictionary: Word Origins of Food and Drink. OUP Oxford. tt. 372–. ISBN 978-0-19-964024-9.
  2. Bridget White (2013). Anglo-Indian Cuisine - A Legacy of Flavours from the Past. AuthorHouse. t. xi. ISBN 9781477251638. Cyrchwyd 23 August 2018.
  3. Emily Ansara Baines (3 October 2014). The Unofficial Downton Abbey Cookbook: From Lady Mary's Crab Canapes to Daisy's Mousse Au Chocolat--More Than 150 Recipes from Upstairs and Downstairs. "F+W Media, Inc.". tt. 213–. ISBN 978-1-4405-8291-2.[dolen marw]
  4. Alan Davidson (21 August 2014). The Oxford Companion to Food. OUP Oxford. tt. 822–. ISBN 978-0-19-104072-6.
  5. Jennifer Stead (1985). Georgian Cookery: Recipes & History. English Heritage. ISBN 978-1-85074-869-4.
  6. Cloake, Felicity (15 Feb 2012). "How to cook perfect yorkshire puddings". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 September 2018.
  7. India Mandelkern (2012) http://homogastronomicus.blogspot.com/2012/10/toad-in-hole-revisited.html
  8. 8.0 8.1 Lavelle, Emma (20 June 2017). "How Toad-in-the-Hole Got Its Name". culture trip. Cyrchwyd 27 September 2018.
  9. Hyslop, Leah (24 July 2013). "Potted histories: toad in the hole". Telegraph. Cyrchwyd 9 September 2016.
  10. Francatelli, Charles Elme (1862). A Plain Cookery Book for the Working Classes. ISBN 0-946014-15-9.
  11. Pellegrino Artusi (1 February 2015). La scienza in cucina e l'arte di mangiar bene. E-text. ISBN 978-88-97313-74-8.
  12. Griffiths, Bruce (2006). Geiriadur yr Academi. University of Wales Press. ISBN 0-7083-1186-5. OCLC 267002065.
  13. "Geiriadur Bangor (Bangor Welsh-English Dictionary), Prifysgol Bangor University". geiriadur.bangor.ac.uk. Cyrchwyd 2019-12-20.
  14. Duncan McCorquodale (2009). A Visual History of Cookery. Black Dog. ISBN 978-1-906155-50-6.
  15. Jan Bondeson (1999). The Feejee Mermaid and Other Essays in Natural and Unnatural History. Cornell University Press. t. 297. ISBN 9780801436093. Cyrchwyd 23 August 2018.