Sophie El Goulli
Gwedd
Sophie El Goulli | |
---|---|
Ganwyd | 4 Chwefror 1931 Sousse |
Bu farw | 10 Hydref 2015 |
Dinasyddiaeth | French protectorate of Tunisia, Tiwnisia |
Galwedigaeth | nofelydd, academydd, hanesydd celf, bardd |
Cyflogwr |
Awdures yn yr iaith Ffrangeg o Diwnisia oedd Sophie El Goulli (4 Chwefror 1931 – 10 Hydref 2015). Cafodd ei geni yn Sousse. Astudiodd ym Mharis a dychwelodd i Diwnisia yn 1956, pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth, i ddysgu fel Athrawes Ffrangeg ym Mhrifysgol Tiwnis.
Ysgrifennodd sawl cyfrol o farddoniaeth Ffrangeg, chwedlau i blant, bywgraffiad o Ammar Farhat (un o arwyr y frwydr dros annibyniaeth) a dwy nofel, yn ogystal â chyfrannu i'r wasg, gan ennill sawl gwobr academaidd a phoblogaidd, yn Nhiwnisia ei hun ac yn Ffrainc hefyd. Ei chyfrol ddiweddaraf oedd Hashtart[:] à la naissance de Carthage, sy'n adrodd hanes un o lawforwynion y frenhines lled-chwedlonol Elissa, sefydles dinas Carthago.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cerddi
[golygu | golygu cod]- Signes
- Vertige solaire
- Lyriques
- Cantate
Straeon
[golygu | golygu cod]- Le joueur d'échecs
- Le soleil et la pluie
- Le roi qui s'ennuyait
Nofelau
[golygu | golygu cod]- Les mystères de Tunis
- Hashtart: à la naissance de Carthage (Tiwnis, 2004)
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]- Ammar Farhat