Sodom a Gomorra

Oddi ar Wicipedia
Sodom a Gomorra
Mathlle yn y Beibl, stori Feiblaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGenesis 18, Genesis 19 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.2°N 35.5°E Edit this on Wikidata
Map
The Destruction of Sodom and Gomorrah, John Martin, 1852.
Arwyddlun Sodom a Gomorra o'r Nuremberg Chronicle gan Hartmann Schedel, 1493. Sylwer fod gwraig Lot wedi ei throi'n biler o halen yn y canol eisoes.

Yn ôl y Beibl, roedd Sodom a Gomorrah yn ddwy ddinas a ddinistriwyd gan Dduw. Yng Nghristnogaeth ac Islam, mae enwau'r ddwy ddinas wedi dod yn gyfystyr â phechod diedifeiriol, gyda chwymp y dinasoedd yn ymgorfforiad o ddicter Duw.

Defnyddir Sodom a Gomorrah hefyd fel trosiadau am wyriad rhywiol ac anfoesoldeb. O ganlyniad, mae'r stori wedi arwain at eiriau newydd mewn nifer o ieithoedd, gan gynnwys y gair Cymraeg "sodomiaeth," term a ddefnyddir ym myd y gyfraith yn bennaf i ddisgrifio cyfathrach rhywiol na sydd yn weiniol yn ogystal â söoffilia a chyfunrywioldeb.