Soaigh
Gwedd
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sant Kilda |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 99 ha |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 57.83111°N 8.63167°W |
Rheolir gan | Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban |
Perchnogaeth | Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban |
Un o ynysoedd Sant Kilda yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Soaigh (Saesneg: Soay). Hi yw'r fwyaf gorllewinol o'r ynysoedd hyn.
Saif yr ynys i'r gogledd-orllewin o'r brif ynys, Hiort, gyda chulfor tua hanner cilomedr o led yn eu gwahanu. Yn y culfor yma mar craig uchel, Stac Shoaigh. Ynys fechan ydyw, tua 2 km o led. Y copa uchaf yw Cnoc Glas, 376 medr uwch lefel y môr.
Fel y gweddill o ynysoedd Sant Kilda, mae'r ynys yn perthyn i Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban, ac nid oes poblogaeth barhaol arni. Mae'n adnabyddus fel cartref Defaid Soaigh.