Snaefell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Snaefell
Snaefell.jpg
Math Mynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Ynys Manaw Edit this on Wikidata
Sir Ynys Manaw Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ynys Manaw Ynys Manaw
Uwch y môr 621 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 54.26328°N 4.46161°W, 54.263288°N 4.461618°W Edit this on Wikidata
Amlygrwydd 2,037 Troedfedd, 621 metr Edit this on Wikidata

Snaefell (Manaweg: Sniaul) yw mynydd uchaf Ynys Manaw a'i hunig gopa sy'n uwch na 2000 troedfedd. Mae'n enw Hen Norseg sy'n golygu "Mynydd yr Eira". Dywedir y gellir gweld chwech teyrnas o'r copa ar ddiwrnod braf, sef Cymru, Iwerddon, Yr Alban, Lloegr, ac Ynys Manaw, ynghyd â Theyrnas y Nef ei hun. Mae rhai fersiynau yn ychwanegu seithfed, teyrnas Neifion, y Môr. Mae Rheilffordd Fynydd Snaefell yn rhedeg am y 4 milltir o Laxey i'r copa. Fel yn achos Yr Wyddfa, ceir caffi ar y copa.

Un o drenau Rheilffordd Fynydd Snaefell ar y ffordd i fyny Snaefell

Mae ffordd yr A18 (a adnabyddir fel 'Ffordd Fynydd Snaefell') yn croesi llethrau isaf Snaefell, ac yn ffurfio rhan uchaf llwybr rasus motorbeic y TT, a gynhelir yn flynyddol ar Ynys Manaw.

Ceir rhai mynyddoedd yng Ngwlad yr Ia a enwir yn Snæfell yn ogystal (yr un enw ydyw, ond gyda sillafiad gwahanol), gan gynnwys y mynydd sy'n lleoliad i rewlif enwog Snæfellsjökull.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]