Siwan M. Rosser

Oddi ar Wicipedia
Siwan M. Rosser
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Darlithydd ac awdur o Sir y Fflint yw Siwan M. Rosser.[1]

Bu'n astudio yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan gwblhau doethuriaeth yno ar faledi'r 18g. Cyhoeddodd ymdriniaeth flaengar â'r modd y portreëdir merched ym maledi'r 18g yn Y Ferch ym Myd y Faled yn 2005. Mae'n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.[2]

Cyhoeddwyd y gyfrol Bardd Pengwern - Detholiad o Gerddi Jonathan Hughes, Llangollen gan Cyhoeddiadau Barddas yn 2007.

Mae hi hefyd yn arbenigo ar lenyddiaeth Gymraeg i blant a phobl ifainc. Cyhoeddodd Arolwg o'r maes i'r Cyngor Llyfrau yn 2017,[3] ac yn 2020 cyhoeddodd astudiaeth ar ddechreuadau llenyddiaeth plant yng Nghymru yn Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y 19Ganrif

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "www.gwales.com - 1900437961". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
  2. "Dr Siwan Rosser - Pobl". Prifysgol Caerdydd. Cyrchwyd 2021-03-10.
  3. Rosser, S.M. "Arolwg Llyfrau Plant a Phobl Ifanc (2017)". Cyngor Llyfrau Cymru. Cyrchwyd 2021-03-10.



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Siwan M. Rosser ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.