Sioned Wiliam
Sioned Wiliam | |
---|---|
Ganwyd | 1962 ![]() Caerfyrddin ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, gweithredwr darlledu, ysgrifennwr, cynhyrchydd teledu ![]() |
Tad | Urien Wiliam ![]() |
Digrifwr ac awdur yw Sioned Wiliam (ganwyd 1962).
Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]
Fe'i ganwyd yng Nghaerfyrddin, yn ferch i'r awdur Urien Wiliam. Fe'i magwyd yn Y Barri ac aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen, cyn astudio drama ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.[1] Yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Rhydychen, cychwynodd berfformio yn yr Oxford Revue, yn gweithio gyda Rebecca Front a Armando Iannucci, ymysg eraill.[2] Gyda Front, roedd yn rhan o'r ddeuawd comedi a cherddoriaeth, y Bobo Girls; perfformiodd y ddau yng Ngŵyl Frinj Caeredin yn 1989[3] ac mewn cyfres radio, Girls Will Be Girls, a redodd am ddwy gyfres yn 1989 ac 1991.[4]
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Aeth ymlaen i weithio fel cynhyrchydd rhaglenni comedi i’r prif rwydweithiau teledu. Fe’i henwebwyd am wobr BAFTA Lloegr dair gwaith fel cynhyrchydd ac enillodd y British Comedy Award a’r Rhosyn Efydd ym Montreux am Big Train ym 1999.[5]
Rhwng 1999 a 2006 roedd yn Bennaeth Comedi Rhwydwaith ITV, gan gomisiynu nifer fawr o ffilmiau a chyfresi comedi gan gynnwys Harry Hill’s Sketch Show a Cold Feet.[6]
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Dal i Fynd yn 2013. Dilynodd Chwynnu yn 2015.[7] Ailymwelir â chymeriadau Dal i Fynd yn ei thrydedd nofel, Cicio'r Bar, ond mae'r gyfrol yn sefyll ar ei phen ei hun.[8] Cyhoeddwyd y nofelau i gyd gan Y Lolfa[9].
Penodwyd yn Bennaeth Comedi Radio 4 yn 2015.[10]
Bywyd personol[golygu | golygu cod]
Mae'n briod â Ian Brown, sgriptiwr comedi ac mae ganddynt fab.[2]
Mae ei brawd, Steffan Wiliam, yn byw ac yn gynghorydd Plaid Cymru yn y Barri.[11]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "2012 Media Conference: Scriptwriting Inside Track" Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback., St Hilda's College, Oxford, 27 Hydref 2012
- ↑ 2.0 2.1 Abbie Wrightwick "Award-winning Welsh TV producer Sioned Wiliam launches new novel", Wales Online, 16 November 2013
- ↑ David Belcher "Unique talent in every guise", The Hrald (Glasdgow), 16 August 1997
- ↑ "Girls Will Be Girls" Archifwyd 2019-03-02 yn y Peiriant Wayback., Radio Listings website
- ↑ "www.gwales.com - 9781784614157, Cicio'r Bar". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ "Sioned Wiliam: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-28. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ "www.gwales.com". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ (yn en) Cicio'r Bar - Nofel Sioned Wiliam am Aberystwyth yn yr 80au, https://www.youtube.com/watch?v=OfFXTMQ6irA, adalwyd 2020-01-10
- ↑ "Sioned Wiliam: Biography and Bibliography | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-21. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ "BBC - Sioned Wiliam appointed as BBC Radio 4's new Commissioning Editor for Comedy - Media Centre". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ https://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/our_council/Council-Structure/councillors/Wiliam-Steffan.aspx