Sion Russell Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Sion Russell Jones
Ganwyd Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Canwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
Tad Terry Dyddgen-Jones Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.sionrusselljones.com Edit this on Wikidata

Canwr a chyfansoddwr o Gymro yw Siôn Russell Jones.

Bywyd a gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Sion yng Nghaerdydd. Dechreuodd chwarae'r gitâr yn 7 oed ac aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Morgannwg (bellach Prifysgol De Cymru).[1]

Ym mis hydref 2010, rhyddhaodd Sion ei albwm cyntaf And Suddenly drwy Still Small Voice Music, a recordiwyd yn ystod ei flwyddyn olaf yn Ysgol Diwydiannau Creadigol A Diwylliannol, Yr Atrium, Caerdydd.[2]

Mae ei gerddoriaeth wedi ei ddefnyddio yn y cefndir ar yr operâu sebon Prydeinig Coronation Street ac EastEnders. Mae ei ganeuon wedi ymddangos hefyd ar y gyfres comedi Stella.

Yn 2011, arwyddodd Sion gytundeb cyhoeddi gyda BDi music,[3] ac yn ystod haf 2011, bu'n perfformio mewn nifer o wyliau yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys[angen ffynhonnell] The Acoustic Festival of Britain, Festival of the Celts, a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Ym mis Mawrth 2012, perfformiodd yng ngŵyl gerddorol SXSW yn Austin, Texas.[4]

Ers hynny mae wedi parhau i recordio a pherfformio.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]