Siôn IV, Dug Llydaw
(Ailgyfeiriad oddi wrth Sion IV, Dug Llydaw)
Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a gellir ei ddileu, o ganlyniad. Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yma yn y categori Categori:Dim-ffynonellau. (06/12) |
Dug Llydaw oedd Siôn IV (Llydaweg: Yann IV, Ffrangeg: Jean IV, Saesneg: John V) (1339 – 1 Tachwedd, 1399) rhwng 1345 a'i farwolaeth. Roedd yn fab i Yann Moñforzh, Dug Llydaw a Joanna o Fflandrys. Nid oedd Lloegr yn cydnabod hawl ei dad i deitl Dug, felly mae nhw'n ei alw'n "John V" yn hwyrach na "John IV", sy'n achosi cryn ddryswch!
Cafodd gymorth Lloegr i frwydro yn erbyn llinach Blois ac yn 1364 trechodd Siarl o Blois (Llydaweg: Charlez Bleaz) ym mrwydr Auray. Lladdodd Siarl yn y fan a'r lle a bu'n rhaid i'w weddw Joanna arwyddo Cytundeb Guérande ar y 12 Ebrill 1365 gan drosglwyddo holl diroedd y teulu yn Llydaw i Siôn.
Siôn IV, Dug Llydaw
Ganwyd: 1339 Bu farw: 1 Tachwedd 1399 |
||
Rhagflaenydd: Yann Moñforzh anghydfod gyda Charles I |
Dug Llydaw![]() 1345–1399 |
Olynydd: Siôn V |
|