Simon B. Jones
Gwedd
| Simon B. Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | 5 Gorffennaf 1894 Sir Aberteifi |
| Bu farw | 27 Gorffennaf 1964 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd, morwr |
Bardd ac aelod o deulu'r Cilie, Cwmtydu, Ceredigion oedd Simon Bartholomeus Jones, sy'n fwy adnabyddus fel Simon B. Jones (5 Gorffennaf 1894 – 27 Gorffennaf 1964).[1]
Aeth i'r môr yn ŵr ieuanc, ond diweddwyd ei yrfa fel morwr pan dorrodd ei ddwy goes mewn damwain yn Buenos Aires. Defnyddiodd y profiad yn ei gerdd Rownd yr Horn, a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936 gyda'r awdl Ty Ddewi.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Cerddi ac ysgrifau S. B. Jones, gol. Gerallt Jones (Gomer 1966)