Neidio i'r cynnwys

Sildenaffil

Oddi ar Wicipedia
Sildenaffil
Fiagra
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs474.20492444 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₂₂h₃₀n₆o₄s edit this on wikidata
Enw WHOSildenafil edit this on wikidata
Clefydau i'w trinVasculogenic impotence, gordyndra ar yr ysgyfaint, anallu edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia b1, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Yn cynnwyscarbon, nitrogen, ocsigen, sylffwr, hydrogen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae sildenaffil, sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Viagra ymysg eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir yn benaf i drin anawsterau wrth gael codiad.[1]

Defnydd

[golygu | golygu cod]

Mae sildenaffil yn cael ei ddefnyddio gan ddynion sy'n cael anhawster i gael codiad i wella eu siawns o galedu eu pidynau er mwyn cael cyfathrach rywiol. Dydy'r cyffur ddim yn achosi codiad yn benodol, ond mae'n rhwystro'r cyhyrau llawn waed yn y pidyn rhag ymlacio. Does dim angen cymryd y feddyginiaeth yn rheolaidd, dim ond cyn cael cyfathrach rywiol. Fel arfer bydd raid disgwyl rhwng hanner awr i awr wedi cymryd y bilsen a bod yn barod am gyfathrach; ond wedi dêt sy'n cynnwys pryd o fwyd llawn braster hwyrach bydd angen disgwyl yn hirach gan fod braster yn effeithio ar hyd yr amser cyn fo'r cyffur yn gweithio[2].

Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂₂H₃₀N₆O₄S. Mae sildenaffil yn gynhwysyn actif yn Revatio, Vizarsin, Viagra, Sildenafil Teva, Sildenafil Ratiopharm a Sildenafil Actavis .

Sgil effeithiau

[golygu | golygu cod]

Ymysg sgil effeithiau cyffredin sildenaffil mae:

Ymysg sgil effeithiau difrifol sildenaffil mae poen yn y frest a chlefyd Priapus (codiad parhaus). Dylid ymofyn cymorth meddygol brys ar unwaith am boenau yn y frest gysylltiedig â'r cyffur ac os yw codiad yn para am fwy na phedair awr.

Argaeledd

[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru a Lloegr mae modd i ddynion dros 18 oed cael Fiagra gan fferyllydd, heb ragnodyn cyn belled a bod y fferyllydd yn derbyn bod y cwsmer yn pasio meini prawf sy'n caniatáu iddo ei werthu iddo[3].

Defnydd meddygol

[golygu | golygu cod]

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • gordyndra ar yr ysgyfaint
  • anallu
  • Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw sildenaffil, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • Viagra®
  • 5-[2-Ethoxy-5-(4-methyl-piperazine-1-sulfonyl)-phenyl]-1-methyl-3-propyl-1
  • 6-dihydro-pyrazolo[4
  • 3-d]pyrimidin-7-one(Sildenafil)
  • 3-d]pyrimidin-7-one (Sildenafil or Viagra)
  • 5-(2-ethoxy-5-(4-methylpiperazin-1-ylsulfonyl)phenyl)-1-methyl-3-propyl-1H-pyrazolo[4
  • 3-d]pyrimidin-7(6H)-one
  • 1-((3-(4
  • 7-Dihydro-1-methyl-7-oxo-3-propyl-1H-pyrazolo(4
  • 3-d)pyrimidin-5-yl)-4-ethoxyphenyl)sulfonyl)-4-methylpiperazine
  • 5-[2-Ethoxy-5-(4-methyl-piperazine-1-sulfonyl)-phenyl]-1-methyl-3-propyl-1,6-dihydro-pyrazolo[4,3-d]pyrimidin-7-one(Sildenafil)
  • 5-[2-Ethoxy-5-(4-methyl-piperazine-1-sulfonyl)-phenyl]-1-methyl-3-propyl-1,6-dihydro-pyrazolo[4,3-d]pyrimidin-7-one (Sildenafil or Viagra)
  • 5-(2-ethoxy-5-(4-methylpiperazin-1-ylsulfonyl)phenyl)-1-methyl-3-propyl-1H-pyrazolo[4,3-d]pyrimidin-7(6H)-one
  • 1-((3-(4,7-Dihydro-1-methyl-7-oxo-3-propyl-1H-pyrazolo(4,3-d)pyrimidin-5-yl)-4-ethoxyphenyl)sulfonyl)-4-methylpiperazine
  • Cyfeiriadau

    [golygu | golygu cod]
    1. Pubchem. "Sildenaffil". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. BMA New Guide to Medicine & Drugs. DK. 2015. t. 385. ISBN 9780241183410.
    3. BBC - Viagra can be sold over the counter adalwyd 12 Mawrth 2018


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!