Signe Bergman

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Signe Bergman
Signe Bergman.jpg
Ganwyd 10 Ebrill 1869 Edit this on Wikidata
Hedvig Eleonora församling Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Mai 1960, 1960 Edit this on Wikidata (91 oed)
Oscars församling Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Sweden Sweden
Galwedigaeth ffeminist, swffragét, ymgyrchydd pleidlais i ferched, golygydd Edit this on Wikidata
Swydd Q99231392 Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Cymdeithas Genedlaethol y Meddwl Rhydd Edit this on Wikidata
Tad Johan Wilhelm Bergman Edit this on Wikidata

Ffeminist o Sweden oedd Signe Bergman (10 Ebrill 1869 - 9 Mai 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Roedd Bergman yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw mudiad etholfraint Sweden, os nad efallai'r enwocaf yn ystod ei hoes.

Ganed Signe Wilhelmina Ulrika Bergman yn Hedvig Eleonora församling ar 10 Ebrill 1869; bu farw yn Oscars församling ac fe'i claddwyd ym Mynwent Northern. [1][2][3][4][5][6][7][8]

Roedd yn gadeirydd y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer y Beidlais i Fenywod (National Association for Women's Suffrage) neu LKPR yn 1914–1917 a dirprwy Sweden i'r Gynghrair Ryngwladol dros Rhoi'r Bleidlais i Fenywod yn 1909–1920. Hi oedd trefnydd cyngres Chweched Cynhadledd y Gynghrair Menywod Difrifol Ryngwladol (International Woman Suffrage Alliance) yn 1911 a golygydd papur y LKPR, Rösträtt för kvinnor (etholfraint y fenyw).

Magwraeth a dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Signe Bergman yn aelod o deulu o swyddogion y llywodraeth yn Stockholm a chafodd addysg dda ond anffurfiol. Treuliodd rai blynyddoedd ym Lloegr, lle bu'n gweithio yn sefydliad ei chefnder Martina Bergman-Österberg, yn ogystal â chynorthwyydd i ymchwilydd yn yr Amgueddfa Brydeinig, cyn iddi ddychwelyd i Sweden, lle bu'n gweithio fel clerc yn y Sveriges allmänna hypoteksbank. Roedd Bergman yn byw ar ei phen ei hun mewn cyfnod pan ystyriwyd ei fod yn fwy addas i fenyw dosbarth canol proffesiynol rannu ei fflat â chydymaith benywaidd! [9]

Newid y ddeddf[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1902, cyflwynwyd dau gynnig ynghylch diwygio'r bleidlais i fenywod yn Senedd Sweden. Roedd y naill gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Hjalmar Hammarskjöld, a awgrymodd y dylid rhoi dwy bleidlais i ddynion priod, gan y gallant bleidleisio dros eu gwragedd hefyd. Cyflwynwyd cynnig arall gan Carl Lindhagen, a awgrymodd rhoi'r bleidlais i fenywod. Cododd awgrym Hammarskjöld gryn dicter ymysg ymgyrchwyr hawliau menywod, a ffurfiodd grŵp i gefnogi cynnig Lindhagen. Ar 4 Mehefin 1902, sefydlwyd Föreningen för Kvinnans Politiska Rösträtt (FKPR): cymdeithas lleol i Stockholm i ddechrau, ond daeth yn sefydliad cenedlaethol y flwyddyn wedyn.

Yn 1911 etholwyd Anna Whitlock i'r gadair gan ei bod yn niwtral oddi wrth unrhyw blaid gwlediddol, ond rhwng 1914 a 1917 Signe Bergman oedd Cadeirydd y gymdeithas; hi hefyd oedd golygydd cylchgrawn y gymdeithas.

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Meddwl Rhydd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  2. Disgrifiwyd yn: "Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna"; dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020.
  3. Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  4. Dyddiad geni: "Hedvig Eleonora kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/SSA/0006/C I/25 (1867-1869), bildid: 00012302_00186". t. 150. Cyrchwyd 16 Ebrill 2018. 183,April,10,,1,Signe Wilhelmina Ulrika.....Häradshöfding Johan Victor Bergman o h.h. Gunilda Carolina f. Hultbring, No18 Greffgatan...25 "Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna"; dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020.
  5. Dyddiad marw: "Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna"; dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020.
  6. Man geni: "Hedvig Eleonora kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/SSA/0006/C I/25 (1867-1869), bildid: 00012302_00186". t. 150. Cyrchwyd 16 Ebrill 2018. 183,April,10,,1,Signe Wilhelmina Ulrika.....Häradshöfding Johan Victor Bergman o h.h. Gunilda Carolina f. Hultbring, No18 Greffgatan...25 https://sok.riksarkivet.se/?postid=Folk_100365317; dyddiad cyrchiad: 16 Ebrill 2018; enwyd fel: Signe Vilhelmina Ulrika, f. 1869 i Stockholm. "Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna"; dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020.
  7. Man claddu: "Bergman, SIGNE VILHELMINA ULRIKA". Cyrchwyd 12 Ebrill 2017.
  8. Tad: https://sok.riksarkivet.se/?postid=Folk_100365317; dyddiad cyrchiad: 16 Ebrill 2018; enwyd fel: Signe Vilhelmina Ulrika, f. 1869 i Stockholm. https://sok.riksarkivet.se/?postid=Folk_117542072; dyddiad cyrchiad: 16 Ebrill 2018; enwyd fel: Signe Wilhelmina Ulrika, f. 1869 i Stockholm. https://sok.riksarkivet.se/?postid=Folk_114031678; dyddiad cyrchiad: 16 Ebrill 2018; enwyd fel: Bergman, Signe Vilhelmina Ulrika, f. 1869 i Hedvig Eleonora Stockholms stad, Kontorsbiträde.
  9. Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.