Siarter Iaith

Oddi ar Wicipedia
Siarter Iaith
Enghraifft o'r canlynolpolisi cyhoeddus, polisi iaith Edit this on Wikidata
Dechreuwyd2016 Edit this on Wikidata
Senedd Cymru trwy'r Llywodraeth sy'n cefnogi'r Siarter Iaith

Mae Siarter Iaith, yn gynllun gan Lywodraeth Cymru er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol yn cynradd ac uwchradd Cymru. Sefydlwyd y Siarter Iaith gan Gyngor Gwynedd yn wreiddiol ond yn 2016 fe'i hymestynwyd yn genedlaethol.[1] Ceir dogfennau cefnogi'r Siarter ar gyfer ysgolion ac athrawon eu canfod ar wefan porth addysg gorfodol Llywodraeth Cymru, Hwb.[2]

Cennad[golygu | golygu cod]

Pwrpas y Siarter yw ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae’r Siarter Iaith i bawb a gall pob aelod o gymuned yr ysgol gymryd rhan, cyngor yr ysgol, dysgwyr, y gweithlu, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob ysgol perchnogaeth lawn ar eu Siarter Iaith.

Mae’r Siarter Iaith ar waith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru. Yn ogystal mae rhaglenni eraill ar gyfer disgyblion a dysgwyr:

  • oedran uwchradd ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • sydd yn dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg (cynllun Cymraeg Campus),
  • oedran uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg (cynllun Cymraeg bob dydd)[3]

Cymeriadau Siarter Iaith[golygu | golygu cod]

Bu i'r Siarter gyflwyno dau gymeriad newydd yn benodol ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith gymdeithasol yn ysgolion cynradd Cymru. Roedd y ddau arwr yma ar bosteri a bathodynnau yn annog plant rhwng 4 a 7 oed i ddefnyddio’r iaith ar yr iard, yn y cartref ac yn y dosbarth.

Fel rhan o'r Siarter, mae pob ysgol unigol yn cwblhau ymarfer sylfaenol i bennu defnydd o'r iaith cyn datblygu cynllun gweithredu i weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur. Mae'r cynllun yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - yn ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr ysgol a'r gymuned ehangach.

Mae gan gymeriadau y Siarter, Seren a Sbarc, gân arbennig, gyda’r geiriau i ganu gyda’r gân yn y fideo. Mae’r gân hefyd ar gael ar Spotify. Diolch i Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, am ysgrifennu’r geiriau ac i Osian Williams am gyfansoddi’r gerddoriaeth.[4]

Cerddoriaeth y Siarter Iaith[golygu | golygu cod]

Teg dweud bod hyrwyddo cerddoriaeth y Sîn Roc Gymraeg ar ffurf disgos neu gyngherddau gan fandiau byw,[5] a thrwy hyrwyddo gwrando ar radio neu ffrydio Cymraeg yn rhan fawr allbwn y Siarter Iaith gan ysgolion.

Ceir awr o gerddoriaeth gyfredol Gymraeg ar BBC Sounds er mwyn cefnogi ymdrechion Siarter Iaith ysgolion. Cyhoeddwyd ym mis Ioanwr 2024 gydag uchafbwyntiau cherddorol 2023.[6]

Gwerthusiad[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd werthusiad o'r Siarter Iaith gan Lywodraeth Cymru yn 2020. Ynddo nodwyd bod swyddogion consortia addysg yn croesawu’r egwyddor o ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer y Siarter Iaith. Fodd bynnag, canfu’r gwerthusiad hefyd fod angen mwy o eglurder ynghylch sut y bwriedir i’r fframwaith weithio yn ymarferol.

Cafwyd enghreifftiau o ysgolion yn gweithio ar y cyd i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau anffurfiol. Cafwyd tystiolaeth hefyd o ddyblygu wrth ddatblygu adnoddau ac wrth ddatblygu cysylltiadau gyda phartneriaid allanol.[7]

Dolenni allannol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Siarter Iaith: Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r Siarter Iaith" (PDF). pdf Llywodraeth Cymru. 2023. Cyrchwyd 29 Ionawr 2024.
  2. "Siarter Iaith". gwefan Hwb. Cyrchwyd 29 Ionawr 2024.
  3. "Siarter Iaith". gwefan Hwb. Cyrchwyd 29 Ionawr 2024.
  4. "Siarter Iaith Wyt ti wedi gweld wynebau direidus y ddau yma yn ddiweddar?". Gwefan Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 29 Ionawr 2024.
  5. "Yr Adar @ Gig Siarter Iaith - Dinbych 2016". Sianel youtube 'Gweledigaeth'. 2016. Cyrchwyd 29 Ionawr 2024.
  6. "Miwsig y Siarter Iaith". BBC Sounds. 5 Ionawr 2024.
  7. "Gwerthusiad o'r Siarter Iaith". Llywodraeth Cymru. 9 Gorffennaf 2020.