Siôn Conwy
Siôn Conwy | |
---|---|
Ganwyd |
1546 ![]() |
Bu farw |
Rhagfyr 1606 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
cyfieithydd, ysgrifennwr ![]() |
Llenor a noddwr beirdd o Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru oedd Siôn Conwy neu Siôn Conwy III (c. 1546 - Rhagfyr 1606). Roedd yn aelod o deulu'r Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol mawr y Gogledd, gyda phlasdy ym Motryddan, ger Rhuddlan. Ei dad oedd Siôn Conwy II, Aelod Seneddol Sir y Fflint.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn uchelwr diwylliedig, roedd aelwyd Siôn Conwy yn agored i'r beirdd, a cheir cerddi mawl iddo gan sawl un o Feirdd yr Uchelwyr, gan gynnwys Simwnt Fychan a Siôn Tudur.[1]
Cyfieithodd Siôn Conwy ddau draethawd i'r Gymraeg. Mae Klod Kerdd Dafod a'i Dechryad ("Clod Cerdd Dafod a'i Dechreuad") yn gyfieithiad o draethawd Lladin y Sais John Case, Apologia Musices (1588). Mae'r ail draethawd, Definiad i Hennadirion, yn gyfieithad o'r gwaith crefyddol A Summons for Sleepers (1589).[1]
Bu farw Siôn Conwy yn Rhagfyr 1606 a chafodd ei gladdu ar 23 Rhagfyr yn eglwys Rhuddlan.[1]