Shonda Rhimes

Oddi ar Wicipedia
Shonda Rhimes
Ganwyd13 Ionawr 1970 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, ysgrifennwr, cynhyrchydd ffilm, showrunner, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amGrey's Anatomy, Scandal, How to Get Away with Murder, Bridgerton, Inventing Anna Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Urdd Awduron America, Gwobr International Emmy Founders, Gwobr Lucy, Gwobr Time 100, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, CBE Edit this on Wikidata

Awdur Americanaidd yw Shonda Rhimes (ganwyd 13 Ionawr 1970) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr a chynhyrchydd ffilm.

Fe'i ganed yn Chicago ar 13 Ionawr 1970. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Dartmouth, Prifysgol De California ac Ysgol USC yn y Celfyddydau Sinematig.[1][2][3][4]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Erica Hahn, Amelia Shepherd a Meredith Grey.

Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel sefydlydd, prif ysgrifennwr, a chynhyrchydd gweithredol y ddrama feddygol deledu Grey's Anatomy, a phrif gynhyrchydd Preifat Practice, a'r gyfres wleidyddol Scandal. Mae Rhimes hefyd wedi gwasanaethu fel prif gynhyrchydd cyfres deledu ABC Off the Map, How to Get Away with Murder, a The Catch.[5]

Yn 2007, enwyd Rhimes yn un o 100 People Who Help Shape the World yng nghylchgrawn TIME.[6] Yn 2015, cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, cofiant, Year of Yes: How to Dance It Out, Stand in the Sun, a Be Your Own Person. Yn 2017, dywedodd Netflix ei fod wedi ymrwymo i gytundeb aml-flwyddyn gyda Rhimes, ac y byddai ei holl gynyrchiadau yn y dyfodol yn gyfresi Netflix Original.[7]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganwyd Rhimes yn Chicago, Illinois, fel yr ieuengaf o chwech o blant Vera P. (Cain), athro coleg, ac Ilee Rhimes, Jr., gweinyddwr mewn prifysgol.[8][9] Mynychodd ei mam y coleg wrth fagu eu chwech o blant ac enillodd PhD mewn gweinyddiaeth addysgol ym 1991. Daeth ei thad, sy'n dal MBA, yn brif swyddog gwybodaeth (CIO) ym Mhrifysgol Southern California, gan ymddeol yn 2013.[10] [11][12]

Roedd Rhimes yn byw yn Park Forest South (University Park, Illinois bellach), gyda'i dau frawd hŷn a thair chwaer hŷn. Yn ferch ifanc, roedd adrodd straeon yn holl bwysig iddi. Tra yn yr ysgol uwchradd, gwasanaethodd fel gwirfoddolwr ysbyty, a ysbrydolodd ddiddordeb mewn amgylcheddau ysbyty.[13]

Coleg[golygu | golygu cod]

Mynychodd Rhimes Ysgol Uwchradd Gatholig Marian yn Chicago Heights, Illinois. Yng Ngholeg Dartmouth, fe wnaeth graddiodd mewn astudiaethau Saesneg a ffilm ac enillodd ei gradd baglor ym 1991. Yn Dartmouth, ymunodd â Chymdeithas Theatr y 'Black Underground'. Rhannodd ei hamser rhwng cyfarwyddo a pherfformio mewn cynyrchiadau myfyrwyr, ac ysgrifennu ffuglen. Ysgrifennodd ar gyfer papur y coleg.

Ar ôl coleg, symudodd i San Francisco gyda brawd neu chwaer hŷn a gweithio ym maes hysbysebu yn McCann Erickson.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Urdd Awduron America, Gwobr International Emmy Founders (2016), Gwobr Lucy (2007), Gwobr Time 100 (2021), Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America (2023), CBE (2023)[14][15][16][17] .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14131745n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14131745n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Shonda Rhimes". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Grwp ethnig: https://www.biography.com/media-figure/shonda-rhimes.
  5. "Profile". TVLine. Cyrchwyd Tachwedd 28, 2014.
  6. Oh, Sandra (3 Mai 2007). "The TIME 100, ARTISTS & ENTERTAINERS". TIME. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-05. Cyrchwyd 2007-05-05.
  7. Wallenstein, Andrew (14 Awst 2017). "Netflix Lures Shonda Rhimes Away From ABC Studios".
  8. Paskin, Willa (9 Mai 2013). "Network TV Is Broken. So How Does Shonda Rhimes Keep Making Hits?". New York Times Magazine. Cyrchwyd 9 Mai 2013. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  9. Stated on Finding Your Roots, 19 Ionawr 2016, PBS
  10. "'USC selects new vice provost and CIO'". news.usc.edu. 11 Mehefin 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 26 Chwefror 2016.
  11. Aelodaeth: https://directories.wga.org/member/shondalrhimes.
  12. Anrhydeddau: https://www.essence.com/awards-events/red-carpet/emmys/shonda-rhimes-receive-international-emmy-founders-award/. https://www.hollywoodreporter.com/business/business-news/wifs-lucy-award-goes-women-138892/. https://web.archive.org/web/20220131121232/https://time.com/collection/100-most-influential-people-2021/. dyddiad cyrchiad: 31 Ionawr 2022. https://www.amacad.org/new-members-2023. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2023.
  13. Maureen, Ryan (21 Rhagfyr 2005). "Shonda Rhimes, creator of 'Grey's Anatomy' and a Chicagoan of the Year". The Watcher. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-21. Cyrchwyd 21 Ionawr 2008.
  14. https://www.essence.com/awards-events/red-carpet/emmys/shonda-rhimes-receive-international-emmy-founders-award/.
  15. https://www.hollywoodreporter.com/business/business-news/wifs-lucy-award-goes-women-138892/.
  16. https://web.archive.org/web/20220131121232/https://time.com/collection/100-most-influential-people-2021/. dyddiad cyrchiad: 31 Ionawr 2022.
  17. https://www.amacad.org/new-members-2023. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2023.