Shaheen Jafargholi

Oddi ar Wicipedia
Shaheen Jafargholi
Ganwyd23 Ionawr 1997 Edit this on Wikidata
Abertawe, Cymru Edit this on Wikidata
Label recordioIsland Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, canwr, actor teledu Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata

Mae Shaheen tuma Jafargholi (ganed 23 Ionawr 1997) yn actor a chanwr Cymreig-Iranaidd o Abertawe, Cymru. Daeth yn enwog ar ôl iddo ganu ar y gyfres deledu Britain's Got Talent yn y DU.

Ei gefndir[golygu | golygu cod]

Rhieni Shaheen yw Karen Thomas, sy'n Gymraes, ac Iraj Jafargholi, ymgynghorydd cyfrifiadurol Iranaidd. Mae ei rieni wedi gwahanu.[1] Roedd yn ddisgybl ym Ysgol Gymunedol Dylan Thomas [2] a mynychodd Ysgol Berfformio Mark Jermin ar ddyddiau Sadwrn. Gwelwyd Jafargholi ar raglen ddogfen BBC Cymru o'r enw Starstruck a oedd yn dilyn hynt a helynt plant yr ysgol berfformio am chwe mis.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Jafargholi ran y cymeriad Troy (cymydog Jason) yn y gyfres deledu i blant Grandpa In My Pocket.[3]. Mae ef hefyd wedi actio yn y rhaglen deledu Torchwood yn y rhifyn "Greeks Bearing Gifts", yn chwarae cymeriad Danny - plentyn y gwallgofddyn o dad[4] yn ogystal â chymryd rhan yn y gyfres deledu meddygol Casualty, lle chwaraeodd rhan Christy Skinner, claf a oedd yn ddioddef o'r rhug.[5] Aeth Jafargholi ar daith hefyd gyda "Thriller - Live" lle chwaraeodd rhan Michael Jackson ifanc.[6]

Perfformiodd Jafargholi hefyd yng nghyngerdd deyrnged Michael Jackson yn Los Angeles ar y 7fed o Orffennaf, 2009.[7]

Yn Ebrill 2016, cyhoeddwyd ei fod am ymuno â'r opera sebon Eastenders mewn rhan rheolaidd.[8] Yn dilyn stori am droseddau cyllyll, bu farw ei gymeriad yn Mai 2018 wedi cael ei drywanu gan gang. Ar 1 Awst 2018, cyhoeddwyd y byddai'n ymuno â chast Casualty fel y nyrs Marty Kirkby.[9]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Gwaith Rôl Nodiadau
2004 Casualty Christy Skinner Teledu; rhaglen "Inside Out"
2006 Torchwood Danny Teledu; rhaglen "Greeks Bearing Gifts"
2009 Grandpa in My Pocket Troy BBC; Rhan achlysurol
2016–2018 EastEnders Shakil Kazemi Rhan rheolaidd (159 pennod)
2018- Casualty Marty Kirkby Rhan rheolaidd

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Britain's Got Talent Shaheen Jafargholi is already TV veteran Mirror.co.uk. 19-04-2009. Adalwyd 07-07-2009
  2. (Saesneg) School roots for singer Shaheen BBC. Adalwyd 07-07-2009
  3. (Saesneg) [http://www.bbc.co.uk/programmes/b00hn98y "The Robot to Beat All Robots". BBC. Adalwyd ar 2009-04-26.
  4. (Saesneg) 1.07: GREEKS BEARING GIFTS". Archifwyd 2009-05-01 yn y Peiriant Wayback. Canllaw Torchwood. Adalwyd ar 2009-04-26.
  5. Britain's Got Talent Shaheen Jafargholi is already TV veteran Mirror.co.uk. 19-04-2009. Adalwyd 07-07-2009
  6. (Saesneg) "Biographies CAST". Archifwyd 2009-04-22 yn y Peiriant Wayback. Flying Music. Adalwyd ar 2009-04-26.
  7. (Saesneg) British boy Shaheen Jafargholi, 12, to sing at Michael Jackson service. The Times online. 07-07-2009. Adalwyd 07-07-2009
  8. Robin Turner. Britain's Got Talent star Shaheen Jafargholi lands a role in EastEnders (en) , walesonline.co.uk, Media Wales, 11 Ebrill 2016. Cyrchwyd ar 22 Ebrill 2016.
  9. Dainty, Sophie (1 Awst 2018). "Exclusive: Former EastEnders star Shaheen Jafargholi is joining Casualty as new nurse Marty". Digital Spy. Cyrchwyd 1 Awst 2018.