Sgwrs Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Tuduriaid

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Rhai sylwadau:

  1. Mae Tuduriaid yn bodoli'n barod.
  2. Fel y dywed yr erthygl Gymraeg, mae'r 'Tuduriaid' yn dechrau gydag Ednyfed Fychan. 'Oes y Tuduriaid yn Lloegr' sy'n dechrau gyda chipio coron Lloegr gan Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth.
  3. Angen glynnu at yr enw 'Owain Tudur' hyd nes bo cytundeb ar y dudalen honno, y gellir defnyddio 'Owen Tudur'. Os mai 'Owen Tudur' sy'n cael ei defnyddio gan CBAC, mae'n dal yn angenrheidiol glynnu at ein orgraff ni ar cywicipedia, nes y caiff enw'r dudalen ei newid.
  4. 'Digwyddiadau pwysig teyrnasiad y Tuduriaid' - hoffi hwn; ond mae hefyd angen 'Digwyddiadau pwysig Tuduriaid Penmynydd', gan roi uchafbwyntiau o berspectif Cymreig cyn 1485 ee Cipio Castell Conwy ac wei teyrnasiad Elisabeth I ee dymchwel plas Penmynydd.
  5. Prosiect gwych! 2A00:23C6:9912:9E00:A955:E52:EF38:A68A 09:34, 4 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Helo a diolch am eich sylwadau.

Y peth cyntaf i ddweud yw bod hyn dal yn ddrafft. Bydd proses o wirio gan arbenigwyr cyn i hwn cael i gyhoeddi.

  1. Ni'n ymwybodol bod erthygl yn bodoli'n barod ac wedi ceisio cynnwys gwybodaeth yr erthygl wreiddiol yn y fersiwn newydd. Ein bwriad yw ail ysgrifennu ac ehangu'r erthygl i wneud e'n haws i blant ysgol dod o hyd i'r wybodaeth allweddol ar gyfer gwaith ysgol trwy gynnwys cyflwyniadau syml i'r gwahanol agweddau a trwy gynnal rhestrau/llinell amser.
  2. Mae'r Tuduriaid yn dechrau efo Ednyfed fychan fel teulu ond mae'r term 'Oes y Tuduriaid' yn derm cyfarwydd sydd yn cyfeirio pob tro at gyfnod y teulu ar orsedd Lloegr, felly mae'n bwysig i esbonio hyn yn gynnar yn yr erthygl. Mae pennawd cyntaf ein herthygl drafft, fel yn yr erthygl bresennol yn trafod gwreiddiau'r teulu yng Nghymru ac yn son am y cysylltiad efo Ednyfed Fychan. Mae fe hefyd yn cyfeirio darllenwyr at y brif erthygl am Duduriaid Penmynydd felly nid oes angen ail adrodd gormod o'r erthygl yna. Mi wna'i edrych ar addasu'r cyflwyniad i son am wreiddiau'r teulu yng Nghymru.
  3. Dw'i wedi sieco'r Bywgraffiadur Cymraeg ac Owain Tudur sy'n cael i ddefnyddio felly byddaf yn cywiro hwn. Diolch am sylwi.
  4. Mae 'teyrnasiad y Tuduriaid' yn dechrau yn 1485 felly bydd cynnwys digwyddiadau cyn y dyddiad yma falle bach yn ddryslyd. Ond credu bod lle gwneud un tebyg i'r Tuduriaid Penmynydd i fynd efo'r darn cyntaf. Allwch chi awgrymu digwyddiadau allweddol?

Cofion

Jason.nlw (sgwrs) 09:55, 5 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]