Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne/Amgueddfa Atgofion

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Danfon ebost yn cynnwys dolen i'r dudalen yma. Mae hwn yn swnio'n brosiect cyffrous iawn. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:45, 9 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Wedi cael ebost gan un o swyddogion y Fenter yn cadarnhau ei dderbyn ac yn nodi y bydd yn cael ei roi o flaen y pwyllgor. O ddarllen sylwadau yma gan Lesbardd am geisiadau tebyg gan Fentrau eraill yn y gogledd ddwyrain (heb son am draws Cymru), oes gwerth eu gwneud yn ymwybodol o arian gan Wikimedia UK ar gyfer prosiectau digideiddio? H.y. arian ar wahan i unrhyw arian maent eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer prosiectau arfaethedg y Wicipedia Cymraeg? Sut ti'n meddwl byddai'r gwynt yn chywthu, Llywelyn?--Ben Bore (sgwrs) 20:38, 18 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Taswn i'n trefnydd yr Amgueddfa Atgofion, baswn i'n cymryd mantais o'r ffaith bod yr Eisteddfod yn Ninbych yn 2013. Efallai basai ein presenoldeb yna yn fantais arall iddyn nhw.Lesbardd (sgwrs) 08:51, 19 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Faswn i ddim yn synnu petai gyda nhw stondin eu hunain yno ar gyfer yr arddangosfa - os ydyn nhw wedi cael bron i £60,000 a bod llai na £30,000 yn mynd ar gyflog y swyddog, yna bydd gyda angen gwario'r cyllid rhywsut ac mae'r Steddfod yn ffordd da o wneud hyn!--Ben Bore (sgwrs) 09:19, 19 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Wedi cael ebost arall gan swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych yn cadarnhau eu bod wedi penodi swyddog ar gyfer y prosiect ac y bydd hi mewn cysylltiad gyda ni pan ddechreuith yn ei swydd.--Ben Bore (sgwrs) 09:23, 25 Hydref 2012 (UTC)[ateb]