Neidio i'r cynnwys

Sgwrs Defnyddiwr:Paulpesda

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Croeso i'r Wicipedia.

Arddull

[golygu cod]
  • Ym mrawddeg cyntaf pob erthygl, dyali testun yr erthygl ymddangos mewn ysgrifen trwm (bold).
  • Ceisia osgoio defnyddio geiriau fel 'unigryw' i ddisgrifio rhywbeth, yn enwedig deuawd, gan mai mater o farn yw hynny.
  • Pan yn creu dolen at erthygl arall yn Wicipedia, does ond angen gwneud unwaith (h.y., os ti'n cyferio at Theatr Gwynedd sawl tro mewn erthygl, dim ond y tro cyntaf mae angen creu dolen). Mae'r erthygl yn mynd i edrych yn fler fel arall, yn enwedig os yw'r ddolen yn goch am nad yw'r erthygl yn bodoli eto.

Erthyglau'n bodoli'n barod

[golygu cod]

Mae dolen gyda ti at SAIN yn yr erthygl Hogiau Llandegai, ond mae erthygl amdanynt yn barod o'r enw Cwmni Recordiau Sain (ddim i'w gymysgu gyda'r arthygl am sain (sound)). I wneud dolen at y dudalen yma ymddangos fel hyn: Sain, dyma'r côd: [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]]

Categoriau

[golygu cod]

Er mwyn ei wneud yn haws i eraill ddod o hyd i erthyglau tebyg am yr un pwnc, mae Categori:Categorïau yn bodoli. I roi erthygl mewn categori, ti'n cynnwys y côd ar waelod cynnwys tudalen (tip: erdycha am erthyglau ar hap i weld y math o gategorïau sy'n bodoli, a gwasga 'golygu' i weld y côd tu cefn iddynt). Er engrhiafft:

  • Mae Everton F.C. yn perthyn i gategori Categori:Timau pêl-droed Lloegr, ac mae [[:Categori:Timau pêl-droed Lloegr]] ar waelod eu tudalen yn y côd.
  • Mewn erthygl am berson mae nhw'n cael eu catagreiddio yn ôl eu galwedigaeth a pha wlad maen't ohon, ac er mwyn iddynt gael eu rhestru yn nhrefn y wyddor eu cyfenwau, ti'n defnyddio'r arddull canlynol yn y côd: [[Categori:Pêl-droedwyr Seisnig|Rooney, Wayne]] a [[Categori:Genedigaethau 1985|Rooney, Wayne]]


*Paid poeni am y categori os ti ddim yn siwr pa rai mae dy erthyglau'n perthyn iddynt, bydd golygwyr eraill yn debygol o ddod draw a'u gosod yn y rhai priodol ar dy ôl neu creu rhai newydd os oes rhaid, ond rho dro arni os ti'n gallu.

Os oes cwestiwn gyda ti, hola yn Y Caffi, neu ar fy nhudalen Sgwrs.--Ben Bore 15:05, 2 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Canllaw

[golygu cod]

Mae na gymorth wedi'i roi i ti uchod - pwyntiau hollbwysig i'w dilyn yn ofalus. Cyn mynd ymlaen i gyhoeddi rhagor, a wnei di gywiro rhai o'r erthyglau rwyt wedi'i creu'n barod, drwy fynd drwy'r cymorth / canllaw uchod. Can diolch! ee mae Categoriau'n holl bwysig ar erthygl, fel ag y mae'r gwybodlenni ayb. Gofyn os nad yw hyn yn glir. Gelli weld sut rydw i wedi mynd ati i gywiro dy erthyglau drwy bwyso'r botwm Gweld hanes y dudalen. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:34, 20 Awst 2024 (UTC)[ateb]

Er enghraifft: fedri di wella'r erthygl Awê Bryncoch!, gan:
1. Droi'r teitl yn Italig
2. Troi enw'r erthygl, yn y frawddeg gyntaf, yn 'bold' (trwm).
3 Ychwanegu brawddeg gyntaf sy'n esbonio beth yw Awê Bryncoch! ee Addasiad llwyfan gan Mei Jones o'r gyfres gomedi C'mon Midffîld! yw Awê Bryncoch!. Dyma'r drefn arferol ar bob erthygl ar Wicip.
3. Ychwanegu categoriau
4. Ychwanegu un neu ddau o gyfeiriadau ychwanegol.
Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:43, 20 Awst 2024 (UTC)[ateb]
Diolch! Mae'n braf medru cyfrannu. Paulpesda (sgwrs) 14:13, 20 Awst 2024 (UTC)[ateb]
Jyst dweud, hfyd fod dy gyfraniadau'n wych, yn llenwi bwlch hynod o bwysig - byd y ddrama Gymreig. Melys moes mwy! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:24, 20 Awst 2024 (UTC)[ateb]
diolch. am ymweld â'r Llyfrgell yng Nghaerdydd fory i gwblhau'r manylion am y Fedal Ddrama.
un nodyn o gymorth plis, sut mae newid teitl y dudlaen i italeg? Nesh i greu Awê Bryncoch! o dudalen Cwmni Theatr Gwynedd, lle roedd y gwreiddiol mewn italeg, ond wrth greu tudalen newydd o'r linc, fe drodd yn normal! dwi'n golygu heb ddefnyddio côd. diolch Paulpesda (sgwrs) 14:30, 20 Awst 2024 (UTC)[ateb]
Er mwyn italeiddio teitl yr erthygl bydd yn rhaid gludo tamed bach o god ar frig y dudalen, fel y gelli weld ar Awê Bryncoch!, sef {{Teitl italig}}. Does dim rhaid defnyddio'r fersiwn 'Golygu cod' i wneud hyn: gelli fynd i'r wedd 'Golygu', ac ar y chwith, brig (top), o dan enw'r erthygl fe weli betrual glas yn dweud 'Teitl italig'. Gelli gopio hwnnw a'i ludo fewn i dudalen arall. Pob lwc! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:48, 21 Awst 2024 (UTC)[ateb]
Diolch.Ara' deg mae dal iâr! Paulpesda (sgwrs) 06:57, 21 Awst 2024 (UTC)[ateb]

Bora da! Mae arnai ofn mod i creu tudalen am y ddrama Leni ddoe, heb wybod bod na dudalen eisioes am y ddrama a gyhoddwyd. Mae un i'w weld o dan [[Leni (drama lwyfan)] a'r llall Leni (drama) Oes posib dileu un neu gyfuno'r ddau? Hefyd, mae tudalen a grewyd o'r enw Leni (ffilm) sy'n gamarweiniol gan mai addasiad i deledu oedd y rhaglen nid ffilm. Recordiwyd y ddrama lwyfan yn stiwdio Barcud gan Teledu Tir Glas, ac ymhell o fod yn ffilm fel yr honna'r erthygl. diolch. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Paulpesta (sgwrscyfraniadau) 09:14, 25 Awst 2024‎

Dim problem. Mi es i 'Rhagor' yna 'Symud' a'i symud i'r enw newydd, sef Leni (drama deledu).
Dw i di gwneud yr un peth ganwaith! Roedd llawer mwy o wybodaeth ar Leni (drama lwyfan), felly trois Leni (drama) yn dudalen ailgyfeirio. Diolch am dy gyfraniadau gwerthfawr1 Dysgwr sydyn!
ON Cofia arwyddo sylwadau fel yr uchod efo pedwar sgwigl (~) sy'n troi'n llofnod ac amser yn otomatig. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:27, 25 Awst 2024 (UTC)[ateb]
Diolch! Paulpesda (sgwrs) 14:07, 25 Awst 2024 (UTC)[ateb]