Awê Bryncoch!
Gwedd
Awdur | Mei Jones |
---|---|
Cyhoeddwr | heb ei gyhoeddi |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1993 |
Pwnc | pêl droed |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Addasiad i'r llwyfan o'r gyfres gomedi boblogaidd C'mon Midffîld! gan Mei Jones yw Awê Bryncoch! Cyflwynwyd y Cynhyrchiad yn Theatr Gwynedd, Bangor ym 1993 gan Gwmni Theatr Gwynedd, fel rhan o ddathliadau'r Cwmni yn saith oed. Cyfarwyddwr y Cynhyrchiad oedd Graham Laker.[1] Cafwyd cyfuniad o 'olygfeydd cyfarwydd o gyfres deledu S4C, ar y llwyfan ac ymysg y gynulleidfa, oedd yn dyblu fel cae pêl droed enfawr.
Derbyniodd y Cynhyrchiad adolygiadau ffafriol iawn gan sawl beirniad theatr.
Ni chafodd y sgript ei gyhoeddi hyd yma.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Arthur Picton - rheolwr Tîm Peldroed Bryncoch
- Wali Tomos - ar y lein
- Tecwyn Parry - ceidwad y gôl
- George Hughes - aelod o'r tïm
- Sandra Picton - gwraig George
- Jean Parry - gwraig Tecwyn
- Lydia Tomos - mam Wali
- Rhannau Eraill
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfanwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1993. Cyfarwyddwr: Graham Laker; cynllunydd Eryl Ellis; cast:
- Arthur Picton - John Pierce Jones
- Wali Tomos - Mei Jones
- Tecwyn Parry - Bryn Fôn
- George Hughes - Llion Williams
- Sandra Picton - Gwenno Elis Hodgkins
- Jean Parry - Bethan Gwilym
- Lydia Tomos - Catrin Dafydd
- Rhannau Eraill - Fraser Cains
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhaglen Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Awê Bryncoch! gan Mei Jones.