Sgwrs:Y Fyddin Brydeinig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cynnig ein bod yn symud yr enw i Fyddin Lloegr. Er y bu (ac y mae) nifer o genhedloedd eraill yn rhan ohoni (a Chymry yn eu plith), Lloegr sy'n ei rheoli'n llwyr ac nid oes gan yr un Cynulliad unrhyw ddylanwad arni. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:23, 19 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]

Cynnig gwirion. Nid yw Lloegr yn wladwriaeth; y Deyrnas Unedig yw'r wladwriaeth y mae'r Fyddin Brydeinig yn perthyn iddi. Onid pwynt Wicipedia yw i fod yn ffeithiol gywir? Os ydym am alw Byddin Prydain yn 'Fyddin Lloegr', onid ydym yn gosod cynsail wael, sef y gellir ystumio gwybodaeth yn ôl safbwynt a mymwpy?
Amheuaf mai dy fwriad yw cesio gwyngalchu ymwneud y Cymry a'r fyddin. Yn anffodus, mae nifer o Gymry yn gefnogol i'r Fyddin, ac yn wir, wedi gwasanaethu ynddi. Nid ddylwn anwybyddu hwnny, bid mor warthus ag bo, trwy alw'r fyddin yn 'Fyddin Lloegr'. Mae'n ddychrynllyd bod rhywun o'th safle di yn annog gwyro gwybodaeth ar Wicipedia yn ôl dy safbwynt.
Fe'th gyfeiriaf at reolau Wicipedia o ran bod yn ddi-duedd: https://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Neutral_point_of_view#Impartial_tone.
Ceisia arwyddo dy sylwadau, yn arddull arferol wici (pedair sgwigl). Rhydd i ti dy farn, gyfaill. Parthed: 'o'th safle di' - unigolyn ydw i ar wici, heb unrhyw safle, namyn un o tua 16 gweinyddwr di-gyflog. Ceisia liniaru dy iaith os gweli di'n dda, a phaid a chymryd cynnig gan un person yn bersonol. Parthed niwtraliaeth, gellir dadlau nad yw'r defnydd o'r gair Prydain yn ddim mwy na barn un genedl yn cael ei gwthio ar genedl llai mae JR Jones wedi sgwennu'n helaeth ac yn ddeallus ar hyn, fel ag y mae Emyr Llew yntau. Dydw i ddim yn disgwyl cefnogaeth, dw i'n nabod Cymru/y'n well na hynny! Ond, fel y dywedais, rhydd i bob un ei farn... Llywelyn2000 (sgwrs) 21:25, 19 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]
Ceisio lliniaru ar beth yn union? Does dim byd sarhaus uchod. Rwyt ti'n pregethu i'r côr os wyt ti am fy nghyfeirio at J R Jones. Mae Prydeindod yn wenwyn yng ngwythiennau ein gwlad, ond gwaetha'r modd, nid ddylid gadael i ddaliadau personol wyro gwybodaeth ffeithiol gywir, sef mai byddin y Deyrnas Unedig yw'r Fyddin Brydeinig. Yn bersonol, dwi'n credu mai Palesteina yw Israel. Ar sail dy gynnig di, felly, mae gen i berffaith hawl gynnig yr ydym yn ailenwi erthygl Israel yn Balesteina, onid oes? Wyt ti'n gweld y llinell fanna rhwng barn a ffaith, sef, er mor gam ydyw, Israel yw'r wladwriaeth sy'n bodoli'n swyddogol yno?

80.234.166.158 09:23, 20 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]