Sgwrs:Siop lyfrau Cymraeg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Y Rhestr Siopau[golygu cod]

Oes rheswm penodol pam bod y rhain wedi eu dewis? Mae sawl un wedi cau (Siop y Morfa yn Y Rhyl a Triban yng Nghaerydd) neu newid enw (Pendre ym Mangor). Falle dylid ond rhestru rhai arbennig gydag esboniad.(e.e. y cyntaf un, un oedd yn cael ei redeg gan berson 'adnabyddus', y cyntaf mewn rhan arbennig o Gymru, rhai'n fentrau cymdeithasol). Tua blwyddyn yn ol roedd rhaglen Pethe ar S4C yn trafod agor siop Bys a Bawd yn Llanrwst gan fam Myrddin ap Dafydd a sut roedd y bobl lleol yn meddwl byddai'r fenter yn siwr o fethu gan nad oedd galw'n lleol am bethau Cymraeg!--Ben Bore (sgwrs) 20:51, 19 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]

Dyw'r rhestr yma yn sicr ddim yn orffenedig. Ni sonnir am rai am nad oedd sicrwydd am eu henwau er engraifft. Roedd yna siop lyfrau Gymraeg yn Llundain ond yn bersonol nid wyf ar hyn o bryd yn cofio ei henw. Gobeithio y gall rhywyn arall ei nodi neu gobeithio y gallaf innau ar ol tipyn o ymchwil. Ynglyn a Bys a Bawd gwnaeth Gawr, chwaer Myrddin ap Dafydd agor hon yn gwerthu llyfrau Cymraeg ond hefyd yn rhoi gwasanaeth teipio ac ati. Roedd eu mham wedi bod yn rhedeg siop cyn hynny ac ar hyn o bryd nid wyf yn siwr o enw'r siop honno. Roedd Eric JOnes a chyn hynny JJMorris yn rhedeg siop yng Nghaernarfon - eto ar hyn o bryd ddim yn siwr o enw'r siop. roedd siop yn Llandeilo ond eto dw i ddim yn siwr o'i henw.
Fe welir felly mai angen mwy o waith ar y ddalen hon ac yn wir ar hanes y fasnach lyfrau yn gyffredinol. Roedd Alun R. Edwards yn ffigwr amlwg yn y cyfnod 50au'r ganrif ddiwethaf tan y 70au. Disgyblion ysgolion yn mynd o gwmpas eu cymunedau i gael archebion am lyfrau Cymraeg, Rhai siroedd yn gwarantu prynu hyn a hyn o lyfrau Cymraeg i'w llyfgelloedd, sefydlu'r Cyngor Llyfrau Cymraeg gyda adran bob un i'r ganolfan ddosbarthu, dyluno a golygu, sefydlu Coleg y Llyfrgellwyr os dyna oedd ei enw iawn, gydag Alun R Edwards ã rhan allweddol ymhob un. Hyd y gwn i does neb wedi casglu, ysgrifennu yr hanes hyn ac mae angen ei gyfnodi cyn yr eiff yn angof.
Dw i'n ddigon parod i drafod unrhyw argymhellion y gellid cytuno a nhw ond dw i yn credu ei bod yn bwysig fod y ffeithiau hanesyddol hyn os yn bosibl Dyfrig (sgwrs) 17:39, 21 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]
Maent yn sicr yn ran bwysig o hanes diwylliant Cymraeg. Dyma restr o'r siopau presenol, er mae rhai'n unigolion sy' gweithio o adre.--Ben Bore (sgwrs) 21:30, 21 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]
Diolch am y cysylltiad i restr y Lolfa. Gwerthfawr iawn ac yn arbed llawer o waith ymchwil i fi. Dylwn fod wedi meddwl amdani.
Tybed a allem gytuno fod Siop Lyfrau Cymraeg naill ai yn neu wedi bod yn cadw stoc sylweddol o lyfrau Cymraeg gan nifer o gyhoeddwyr. Dyweder y dylai y rhan fwyaf o'r llyfrau a gyhoeddwyd dros y 3/6 mis diwethaf fod mewn stoc ac mewn adeilad agored i'r cyhoedd. Os siop ar y we yn unig dylid o leiaf ei rhestri arwahan ar y ddalen dan y penawd Siopau llyfrau Cymraeg ar y We. Mae gyda fi anhawster pan fod siop ond yn gwerthu llyfrau un cyhoeddwr. Mae dolen gwefan Usborne yn mynd at ddalen llyfrau Saesneg yn unig er engraifft. Os nad yw pethau wedi wedi newid, llyfrau y Mudiad Meithrin yn unig oedd Mabon a Mabli yn ei werthu. Hefyd fyddwn i ddim yn rhestri Siopau sydd yn bennaf yn gwerthu offerynau cerdd a chopiau cerddoriaeth fel siopau llyfrau Cymraeg. Gellid gwneud rhestr arall efallai.
Edrych ymlaen at gael dy sylwadau. Dyfrig (sgwrs) 22:36, 21 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]
Cytuno. Bydd hon yn rhestr werthfawr. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:49, 22 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]
Faswn i ddim yn cynnwys Usborne, gan mai mond un person ymhlith degau os nad cannoedd yng Nghymru sy'n ail werthu llyfrau o dan yr un cynllun ydy'r un ar restr y Lolfa. Bues i ffair dolig ger Dinbych yn ddiwddar ac roedd yr asiant Usborne yno yn gwerthu llyfrau Cymraeg. Faswn i ddim yn cynnwys rhai sy ond yn gwerthu cynnyrch gan un cyhoeddwr chwaith (fel CBAC er enghraifft?). Yn bersonol, faswn i chwaith ddim yn cynnwys busnesau ar-lein yn unig, (er byddia'n werth eu crybwyll ym mhrif gorff yr erthygl?), gan ei bod yn gymharol hawdd i unrhyw un sefydlu busens gwerthu ar-lein tra mae'n cymryd tipyn o gyfalaf a risg i sefydlu siop go iawn ac mae eu presenoldeb ar stryd fawr yn cyfrannu tuag at Gymreigrwydd(neu Gymraegrwydd???) tref yn fy marn i. Parthed Mabon a Mabli, dw i'n meddwl roedd eu stondin ar faes y Steddfod Genedlaethol yn y Fro yn cynnwys llyfrau a gemau gan gwmniau eraill, ond dw i ddim yn 100%.
Hefyd sut mae tynnu llinell?
Tybed a allem gytuno fod Siop Lyfrau Cymraeg naill ai yn neu wedi bod yn cadw stoc sylweddol o lyfrau Cymraeg gan nifer o gyhoeddwyr
Beth am siopau ble mae yna ddewis gweddol o lyfrau Cymraeg/Cymreig, ond eto canran gymharol fechan o'r holl siop ydynt, megis Watestone's, Borders (heddwch i'w lwch) a sawl siop annibynol, fel yr un yn Nhyddewi ble prynais gopi o Hanes Cymru gan John Davies ar fy mis mêl!? --Ben Bore (sgwrs) 09:12, 22 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]

Meini prawf[golygu cod]

Swnio braidd yn drastig, ond mae'n cadw pethau'n dwt. Daliwch ymlaen i dael sylwadau yn y drafodaeth uchod, ond mi wna i grynhoi isod. Er mwyn eu cynnwys yn y rhestr ar waelod yr erthygl mae gofyn i siop:

  • gadw stoc sylweddol o lyfrau Cymraeg gan nifer o gyhoeddwyr
  • rhaid i gyfran sylweddol/mwyafrif o stoc y siop (deunydd print/cerddoraieth) fod yn Gymraeg
  • rhaid i'r siop fod yn adeilad ar stryd fawr/mrewn pentref a ddim yn endid ar y we yn unig/rhywun yn gweithio o adre
Dw i yn ddigon hapus gyda'r uchod er y gall diffinio stoc sylweddol fod yn broblem yn y dyfodol Dyfrig (sgwrs) 23:06, 26 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]

Wedi meddwl...[golygu cod]

Wrth ychwanegu rhai siopau at y rhestr, mae peryg i erthygl droi'n ddim mwy na chyfeiriadur (rhywbeth nad yw Wicipedia i fod). Mae hefyd, fel sawl erthygl, yn mynd i brofi'n anodd i'w gadw'n gyfredol. Dw i'n cynnig mai dim ond cynnwys ambell siop nodedig dylid ei wneud (o ddoe a heddiw), a gan bod gwefan y Lolfa eisoes yn rhestru siopau Cymraeg, gallwn roi dolen at hwnnw ar y gwaelod. Yn yr un modd mae gwefannau Cymraeg masnachol fel lleol.net yn bodoli ble gall/dylai siopau Cymraeg gael eu rhestru. Beth chi'n feddwl? --Ben Bore (sgwrs) 09:35, 22 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]

Cytuno dyn ni ddim am iddi fod yn ddim mwy na rhestr cyfeiriadau. Y broblem gyda dim ond cynnwys ambell siop yw y bydd anghytuno beth ddylai fod mewn neu beidio - fel yr awgrymwyd ar ddechrau'r sgwrs hon. Yn bersonol diddordeb yn yr hanes sydd gyda fi. Os cytunnir ar hynny a allen ni gytuno siopau oedd yn bod cyn 1975 neu 1980 fan pellaf a chynnwys ond y rhai y mae rhywbeth diddorol i'w ddweud Dyfrig (sgwrs) 23:05, 26 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]

Dw i'n gweld dim o'i le mewn rhestr o siopa Cymraeg mewn enseicopedia Cymraeg! Does dim raid i ni ddilyn en o gwbwl - mewn unrhyw beth. Darparu gwybodaeth - o bob math - ydy gwaith Wicipedia ac mae rhestr o siopau Cymraewg neu fynyddoedd yr Alban neu o gwmniau bragu cwrw neu unrhyw beth arall i mi yn darparu gwybodaeth a all fod yn ddefnyddiol i'r darllenydd. Cytuno hefyd gyda'r meini prawf uchod. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:58, 27 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]

Cardiau Cyfarch - angen ffynhonnell[golygu cod]

Y tebygrwydd yw nad oes neb hyd y gwn i wedi ysgrifennu dim am hyn ac mae'n anhebygol y ceir ffynhonnell oni bai fod rhywun yn ysgrfennu am y peth. Fe'i nodir o fy ngwybodaeth bersonol i yn y fasnach lyfrau nol yn 70au'r ganrif ddiwethaf, erm fe fyddai digon o dystion a fyddai'n cofio yng Nghaernarfon dw i'n siwr. Os wyt yn annhapus croeso i ti ei ddileu. Dyfrig (sgwrs) 23:22, 26 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]

Cyfeiriadau posib[golygu cod]

http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/papurau_bro/cwlwm/newyddion/tachwedd02.shtml

Delweddau posib[golygu cod]