Sgwrs:Roazhon

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Wait…[golygu cod]

Arhoswch, does dim z yn Gymraeg, felly sut mae galw Rennes yn Roazhon? Rwy'n gwybod bod y Llydaweg a'r Gymraeg yn debyg iawn (gallaf ysgrifennu erthyglau Wicipedia yn y ddwy iaith), fodd bynnag mae'r llythyren z yn bodoli yn Llydaweg ond nid Cymraeg. Nid oes ychwaith unrhyw ffynonellau s dyfynnwyd i brofi yr enwi. Trafodwch os gwelwch yn dda. Diolch. 49.186.41.18 06:49, 28 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]

Rhaid i fi ofyn Defnyddiwr:Llywelyn2000. Deb (sgwrs) 08:38, 28 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]
Nid oes problem yma. Mae'n rheol gyson ym mhob iaith bod enwau priod yn eithriadau i reolau sillafu eraill. Does dim angen inni Gymreigio pob enw estron. Mae gan y Gymraeg ffurfiau arbennig ar rai lleoedd tramor o bwys. Ond eithriadau yw'r rhain. Ein tasg ni yma yw egluro enwau lleoedd y mae Cymry Cymraeg yn debygol o ddod ar eu traws. Nid ein gorchwyl ni yw creu enwau. O barch at iaith Geltaidd arall rydym ni'n defnyddio enwau Llydaweg am leoedd yn Llydaw. --Craigysgafn (sgwrs) 11:03, 28 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]
Cytuno'n llwyr, Craigysgafn! Dyma'r polisi ymarferol da ni wedi'i ddilyn. Y ffurf frodorol amdani; os oes fersiwn Cymraeg, yna defnyddio'r honno. Angen ychwanegu hyn ar Wicipedia:Arddull#Enwau lleoedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:35, 2 Chwefror 2022 (UTC)[ateb]