Sgwrs:Rhestr o dyrau Genoa yng Nghorsica

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

@Llywelyn2000: Mi greais y rhestr hon a'r erthyglau perthnasol er mwyn ychwanegu swmp, yn gynharach eleni pan oeddem yn ceisio cyrraedd targed nifer o erthyglau penodedig. Mae'r erthyglau unigol, ar y cyfan, yn ddiwerth. Prin eu bod yn cynnwys gwybodaeth byddid unrhyw un yn chwilio amdano ar Wicipedia. Mae esgyrn amrwd yr hyn sydd ei angen i lenwi'r rhestr gennyf ar Defnyddiwr:AlwynapHuw/Pwll Tywod/Corsica, ond a oes pwynt treulio amser i dacluso’r erthyglau er mwyn creu rhagor o swmp di sylwedd ar ein Wici? AlwynapHuw (sgwrs) 04:32, 15 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]

Mi greaist dri-chwarter ohonyn nhw! Ac mae ffocws manwl fel hyn o un lle fel Corsica, yn fendigedig. Pwy ydw i i ddweud bod unrhyw wybodaeth o 'sylwedd' neu 'ddim o sylwedd', gan fod the 'sum of all (neutral!) knowledge...' yn werth ei gofnodi - yn enwedig yn y Gymraeg. Mi ofynais y cwestiwn i mi fy hun pan oeddwn yn creu erthyglau ar wyfynod, flynyddoedd yn ol. Ond gall dy erthyglau di, hefyd, fod yn ddefnyddiol i rywun ar ei wyliau, sy'n ei gofnodi'n uwch na 'gwybodaeth er mwyn gwybodaeth'. Be arall sy'n fy nharo i ydy cymaint o brosiectau dw i ac eraill wedi eu dechrau ond heb eu 'gorffen' ee Asturais! Dyma un rheswm pam mod i wedi treulio'r 9 mis dwaetha'n sgwennu erthyglau ar un pwnc, mathemateg, yn hytrach na mynd i bobman, yn benchwiban! Ond pwy ddiawch ydw i a awgrymu dim! Gwna be wyt ti'n ei fwynhau, Alwyn! A diolch am roi'r wybodlen newydd ar yr erthyglau hefyd! Mae'r erthyglau yma'n wych, wych iawn ac yn llawer mwy na 'swmp disylwedd'! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:02, 15 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]